Cymraeg (Iaith Gyntaf) - Lefel A

Trosolwg o’r Cwrs

Dewch i astudio Cymraeg!

Mae’r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr llawn amser sy’n dymuno astudio cwrs UG a Safon Uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf.

Bydd y cwrs Safon Uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf yn eich galluogi i archwilio’r pwnc yn fanwl trwy astudio llenyddiaeth, ffilmiau, barddoniaeth a diwylliant.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i ymgeiswyr sydd eisiau dysgu rhagor am ddiwylliant a hanes Cymru. Bydd gennych gyfle i ddatblygu eich gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn ymarferol, ac i feithrin cywirdeb yn yr iaith.

Diben y fanyleb hon yw datblygu gallu ymgeiswyr i ddefnyddio’r iaith yn greadigol. Anogir dysgwyr i ddarllen yn eang yn ogystal â dysgu gweithiau llenyddiaeth penodol yn drwyadl. Hyrwyddir y gallu i ymateb i ddeunyddiau diwylliannol llenyddiaeth ac amlgyfryngau cyfoes er mwyn meithrin gwerthfawrogiad o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.

Cysylltwch ag Elen drwy anfon e-bost at elen.vanbodegom@cambria.ac.uk i weld a yw’r cwrs hwn yn addas i chi, neu os hoffech ragor o wybodaeth am gynnwys y cwrs.
Y Flwyddyn UG (Y flwyddyn astudio gyntaf)
Mae tri maes astudio, sydd wedi eu seilio ar yr asesiadau craidd llafaredd, darllen, gwrando ac ysgrifennu:

Uned 1: Arholiad llafar yn seiliedig ar y ffilm “Hedd Wyn” a drama a ddewiswyd, gan weithio mewn grwpiau o 2-3 i brofi eich astudiaeth i’r ffilm a’r ddrama.

Uned 2: Gwaith cwrs: Mae wedi ei lunio i feithrin eich sgiliau ysgrifennu’n greadigol, er enghraifft stori fer, pennod gyntaf nofel, dyddiadur, ymson, cyfres o flogiau.

Uned 3:Arholiad ysgrifenedig yn seiliedig ar ramadeg a barddoniaeth. Byddwch yn ateb cwestiynau sy’n profi eich dealltwriaeth o ramadeg. Byddwch hefyd yn ysgrifennu am farddoniaeth yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain a astudiwyd yn y dosbarth.

Yn yr ail flwyddyn astudio, mae tair uned i’w chwblhau.

Uned 4: Arholiad llafar yn seiliedig ar astudio nofel: Un Nos Ola Leuad, Dan Gadarn Goncrit, Martha, Jac a Sianco neu Blasu. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad llafar mewn grwpiau ac yn ateb cwestiynau sy’n profi eu dealltwriaeth o’r nofel a ddewiswyd.

Uned 5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd yn y meysydd canlynol: Rhyddiaith yr oesoedd canol a barddoniaeth yr oesoedd canol cynnar.

Uned 6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr am werthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg ynghyd â’r meini prawf canlynol:

– TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf, gradd B/6 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae pwysigrwydd astudio Cymraeg yn amlwg, beth bynnag fo’ch dyheadau gyrfa. Mae cyflogwyr bellach yn nodi pa mor ddymunol yw’r Gymraeg wrth wneud cais am swyddi. Gallech chi ddewis astudio’r pwnc er eich mwynhad eich hun, ond mae cyfleoedd gyrfa yn cael eu creu o fod â chymhwyster Cymraeg fel addysgu, cyfieithu, dehongli a gweithio mewn busnesau lle mae angen cyfathrebu’n Gymraeg.

Mae ieithoedd yn cyfuno’n dda gydag unrhyw bwnc gan fod sefydliadau AU yn cynnig rhagor o gyfleoedd i barhau i astudio ieithoedd. Mae angen dychymyg, hunanddisgyblaeth a’ gallu i gyfathrebu ar gyfer astudio ieithoedd. Mae’r rhain yn nodweddion hynod ddymunol gan ddarpar gyflogwyr.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?