Mathemateg Bellach - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA62033
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymwysterau a chynnwys Mathemateg UG a Safon Uwch yn cael eu haddysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cymhwyster a chynnwys Mathemateg Bellach UG a Safon Uwch yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
20 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mathemateg Bellach Safon Uwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws cwestiynau sy'n gofyn am ddefnyddio dadl, gwybodaeth a phrawf mathemategol, datrys problemau, modelu a defnyddio data mewn ystadegau. Byddwch yn dysgu sut y gellir cynrychioli sefyllfa yn fathemategol a deall y berthynas rhwng problemau ‘byd go iawn’ a modelau mathemategol safonol. Byddwch chi hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o berthnasedd mathemateg i feysydd astudio eraill, i fyd gwaith ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Mae Mathemateg Safon Uwch yn cefnogi pynciau Safon Uwch eraill yn dda fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg ac Economeg.

Mae Mathemateg Bellach Safon Uwch ar gyfer mathemategwyr galluog ac mae'n opsiwn sy’n cael ei ffafrio’n fwyfwy mewn llawer o brifysgolion I'r rhai sy'n bwriadu astudio pynciau fel Ffiseg, Peirianneg neu Gemeg.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd A*/A/7-9 mewn TGAU Mathemateg haen uwch
– Gradd A*/A/7-9 mewn pwnc TGAU perthnasol

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mathemateg:
Ar lefel UG, mae Uned 1 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae Uned 2 yn profi Mathemateg Gymhwysol ac mae ganddi adran yn seiliedig ar Ystadegau ac adran yn seiliedig ar Fecaneg. Mae papur Uned 2 yn 1.75 awr o hyd.

Mae Uned 1 werth 25% ac mae Uned 2 werth 15% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Ar lefel Safon Uwch, mae Unedau 3 a 4 yn cael eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Mae Uned 3 yn cael ei asesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae Uned 4 yn archwilio Mathemateg Gymhwysol ac mae ganddi adran yn seiliedig ar Ystadegau ac adran yn seiliedig ar Hafaliadau Differol, Dulliau Rhifiadol a Mecaneg. Mae papur Uned 4 yn 1.75 awr o hyd.

Mae Uned 3 werth 35% ac mae Uned 4 werth 25% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Mathemateg Bellach:
Ar lefel UG, bydd Uned 1 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bellach; mae Uned 2 yn profi Ystadegau ac yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd. Mae Uned 3 yn profi Mecaneg ac yn cael ei asesu trwy bapur ysgrifenedig 1.5 awr o hyd.

Mae Unedau 1, 2 a 3 werth 13 1/3% yr un, a gyda’i gilydd mae werth 40% o’r cymhwyster UG.

Ar lefel Safon Uwch, mae Unedau 4 a 5/6 yn cael eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Mae Uned 4 yn cael ei hasesu trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr o hyd yn seiliedig ar Fathemateg Bur; Mae Uned 5 neu 6 yn archwilio Ystadegau (uned 5) neu Fecaneg (uned 6), bydd ymgeiswyr ond yn sefyll un o’r papurau hyn, ac mae’n seiliedig ar arholiad 1.75 awr o hyd.

Mae Uned 4 werth 35% ac mae Uned 5/6 werth 25% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Bydd arholiadau ffug mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddwyd i ddarparu profiad realistig o sefyll arholiad.
Mae Mathemateg Safon Uwch yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch. Yn ogystal, byddai Mathemateg yn gymhwyster dymunol mewn sawl galwedigaeth; Y Gwasanaeth Sifil, cyllid, bancio, mewn gwaith technegol, cyfrifiadurol, gwyddonol a pheirianyddol, ac mewn sefydliadau llywodraethol a datblygiadol.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?