Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01516
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Gofal Anifeiliaid i’r Niwroamrywiol sy’n gynhwysol gyda chefnogaeth lawn. Mae’n darparu amgylchedd dysgu sy'n gweddu orau i ddysgwyr ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i fodloni anghenion a galluoedd y rhai sy'n gadael yr ysgol a fyddai'n cael trafferth cael mynediad i'r coleg drwy'r llwybr prif ffrwd traddodiadol.

Mae ein rhaglenni i’r rhai Niwroamrywiol yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â sgiliau cyfathrebu cymdeithasol. Nod y rhaglenni yw goresgyn y rhwystrau hyn er mwyn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd neu i waith/cyflogaeth yn eu sector dewisol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

● Rhaglen un flwyddyn a gaiff ei harwain gan nod penodol: gwaith/cyflogaeth, interniaeth â chymorth neu symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd yn unol â chanlyniadau CAIG/CDU
● Bydd cyflwyniad y pynciau craidd mewn Gofal Anifeiliaid yn cael ei wahaniaethu i ddiwallu anghenion dysgwyr ar eu lefel ddysgu a nodwyd. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r pwnc i roi blas iddynt fel y gallant symud ymlaen y flwyddyn ganlynol
● Bydd y rhaglen yn cynnwys cyflwyno Sgiliau Bywyd a bydd yn elfen graidd o'r rhaglen: Cyflogadwyedd, Iechyd a Llesiant, Gwaith Cymunedol a Sgiliau Byw'n Annibynnol
● Bydd sesiynau blasu diwydiannol grŵp yn cael eu cynnwys yn y rhaglen er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith go iawn
● Bydd dysgwyr yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Mathemateg a Saesneg ar eu lefel waith
● Cefnogir y rhaglen yn llawn
● Trosglwyddo personol trwy fentor anhwylderau’r sbectrwm awtistig
● 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg
● Ystafell ddosbarth bwrpasol - dim mwy na 10 dysgwr mewn dosbarth
● Wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol, er y disgwylir i ddefnyddwyr fod â diddordeb ym maes y pwnc a bod a Chynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal, sy’n amlinellu anhawster cyfathrebu cymdeithasol gyda diagnosis Awtistiaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau prif ffrwd Addysg Bellach, cyflogaeth neu interniaeth â chymorth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?