Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01361 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cwrs yn para am un flwyddyn. Mae’r cwrs yn un llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos. Mae’r diwrnod coleg yn para o 9.30am tan 4.45pm.(3.45 ar ddydd Gwener). |
Adran | Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad Gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y dysgwyr ar raglenni Llwybr 3 yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Efallai y bydd gan rai anawsterau dysgu a/neu anableddau. Efallai y bydd gan eraill broblemau cymdeithasol neu ymddygiadol wnaeth darfu ar ddatblygiad eu sgiliau neu eu dal yn ôl. Efallai nad yw rhai dysgwyr wedi ffynnu o fewn amgylchedd academaidd yr ysgol, gan arwain at effaith ar eu hymddygiad, eu cyrhaeddiad, eu hunanhyder a'u cymhelliant/agwedd tuag at ddysgu.
Mae'r Llwybr hwn ar gyfer dysgwyr sy'n anelu at fyw bywydau annibynnol pan fyddant yn gadael y coleg ond efallai y bydd angen cymorth ar rai o hyd.
Bydd dysgwyr ar raglenni Llwybr 3 yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy'n cynnwys:
*Iechyd a Llesiant
*Cynhwysiant Cymunedol
*Sgiliau Byw’n Annibynnol
*Sgiliau Cyflogadwyedd
*Profiad cysylltiedig â gwaith mewn amgylchedd lle ceir cymorth sy’n gysylltiedig â diddordeb/dewis galwedigaethol y dysgwr
*Sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol mewnblanedig
Mae cynllunio gyda chyrchfan mewn golwg yn allweddol i bob dysgwr.
Bydd yr holl weithgareddau ar y rhaglen hon yn cael eu cynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth berthnasol i ddysgwyr ar gyfer eu taith UNIGOL.
Bydd y dysgwyr:
*Yn cael cyfnod pontio llawn i’r rhaglen. Rhaid i geisiadau cael eu cyflwyno erbyn diwedd Ebrill er mwyn i ni allu cynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i bob dysgwr
*Yn ymgymryd ag asesiad cychwynnol a chyfnod ymsefydlu
*Bydd ganddynt amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol i gynorthwyo cynnydd tuag at eu cyrchfan arfaethedig
*Cefnogir y dysgwyr i ddewis o amrywiaeth o weithgareddau profiad gwaith gan gynnwys: - Gofal Anifeiliaid, Sgiliau gweithdy, Mentrau cymdeithasol a phrosiectau yn y Gymuned.
*Byddant yn cymryd rhan mewn adolygiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn eu targedau unigol ac yn cytuno ar y camau nesaf
Mae angen cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill fel y gallwn gynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i'r coleg i’r dysgwyr.

Mae gan bob dysgwr Gynllun Dysgu Unigol (CDU) sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau personol. Mae myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth 1:1 rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau cynnydd tuag at gyrchfannau tymor hir.
Cefnogir pob dysgwr gan Anogwr Cynnydd a fydd yn cwrdd â dysgwyr yn rheolaidd i’w cefnogi gyda’u hanghenion bugeiliol ac yn gweithredu fel eiriolwr dros y dysgwyr.

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Fynediad 2 neu 3.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu cymhleth, cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac mae cynigion yn seiliedig ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth ategol gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesiad o anghenion cymorth.
Gofynnwn i bob ymgeisydd fynychu sesiwn profi fel rhan o’r broses ymgeisio i sefydlu eu haddasrwydd, eu potensial a’u hanghenion cymorth ychwanegol.
Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun Addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n manylu ar eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae’r holl gynlluniau’n cael eu hadolygu gan ein Panel Cynhwysiant cyn eu derbyn ar y rhaglen.
Mae angen cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill fel y gallwn gynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i’r dysgwyr.

Mae byw’n annibynnol yn gyrchfan hirdymor debygol i’r rhan fwyaf o ddysgwyr, er y bydd rhai yn parhau i fod angen cymorth ar gyfer byw.
Gall dysgwyr symud ymlaen i ddysgu pellach ar Lwybr 4 / interniaethau â chymorth neu raglenni Addysg Bellach eraill.

Lawrlwythiadau Defnyddiol
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024