Diploma Lefel 3 Mewn Peirianneg (Crefft)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00863
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn Gwrs 1 flwyddyn llawn amser (3 diwrnod yr wythnos).
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
27 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd myfyrwyr yn astudio nifer o unedau arbenigol fel unedau Mecanyddol, Niwmatig a CNC sy'n cefnogi'r rhaglen hon.

2850-301 Iechyd a diogelwch peirianneg
2850-302 Egwyddorion peirianneg
2850-307 Egwyddorion peirianneg gweithgynhyrchu a mecanyddol
2850-321 Cynnal a chadw systemau niwmatig
2850-324 Peiriannu deunyddiau drwy felino
2850-326 Peiriannu deunyddiau gydag CNC
2850 329 Cynhyrchu lluniadau gan ddefnyddio CAD

Deatblygu Sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol.

Mae hon yn rhaglen beirianneg aml-ddisgyblaeth sy'n cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth peirianyddol angenrheidiol i fyfyrwyr sydd am weithio ym maes peirianneg. Mae'n cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno cael prentisiaeth yn y diwydiant gweithgynhyrchu peirianneg neu gynnal a chadw a chomisiynu.
Cwblhau rhaglen Beirianneg Ganolradd/Uwch/Lefel 2 llawn amser perthnasol yn llwyddiannus (er enghraifft cymhwyster City and Guilds ac EAL Trydanol a Mecanyddol, neu debyg) a Sgiliau Hanfodol cysylltiedig.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr gael o leiaf gradd C/4 TGAU mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau lefel 2 mewn Peirianneg ac sy’n gweithio tuag at wella eu TGAU yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglen hon. Fodd bynnag, mae’n ofyniad gorfodol y bydd pob dysgwr yn gweithio tuag at gwblhau TGAU gradd C/4 ac uwch.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at allu astudio cwrs lefel uwch.
Cyfuniad o waith aseiniad, tasgau ymarferol ac arholiadau mewnol ac allanol atebion byr.

Bydd Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y Cwrs.
I’r rhai sydd am weithio ym maes peirianneg, mae’n rhoi cyfle i weithio mewn maes aml-ddisgyblaeth, fel cynnal a chadw mecanyddol sy’n helpu i gefnogi rhaglenni cynnal a chadw’r diwydiant cynhyrchu neu fel peiriannydd sy’n gweithio ar beiriannau cynhyrchu gweithgynhyrchu.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?