Diploma Lefel 2 mewn Cerbydau Modur

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00385
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
27 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwasanaethu ac atgyweirio ac mae hefyd yn briodol i'r rhai sy'n dilyn rhaglenni Prentisiaeth Fodern Sylfaenol. Byddwch yn dysgu am systemau injan (tanwydd, oeri, tanio, aer a gwacáu), siasi (llywio, hongiad, breciau ac olwynion a theiars), trosglwyddo (cydiwr, blwch gêr a gyriant terfynol), systemau trydanol (batri, cychwyn, gwefru a goleuo) ac Iechyd a Diogelwch.

Bydd disgwyl i ddysgwyr sydd heb gyflawni gradd 'C/4' mewn Mathemateg a Saesneg TGAU, fynd i sesiynau i'w cefnogi nhw gyda hyn ynghyd â'u rhaglen alwedigaethol.
Cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus
Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd gwybodaeth yn cael ei phrofi drwy aseiniadau ysgrifenedig byr a chwestiynau ag atebion amlddewis. Cynhelir asesiadau ymarferol yn ystod gweithgareddau gweithdy.
Gwaith yn y diwydiant cerbydau modur. NVQ Lefel 2/3 Technegydd Cerbydau. Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn) Lefel 3.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?