Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP00680 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. (Dwy flynedd os ydych yn dymuno cwblhau’r Diploma Estynedig, ar ôl cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus). |
Adran | Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad Gorffen | 27 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Gellir dilyn y Diploma Lefel 3 fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o feysydd, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar berfformio Cerddoriaeth, creu a chyfansoddi cerddoriaeth a'r diwydiant cerddoriaeth.
Er y bydd y pwyslais ar gymhwyso sgiliau Cerddoriaeth yn ymarferol, gweithio gyda'ch offerynnau a chwarae mewn grwpiau a bandiau, byddwn hefyd yn edrych ar hanes cerddoriaeth boblogaidd a'i thraddodiadau a'i nifer o arddulliau a genres gwahanol. Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae’r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio, yn ogystal â dysgu am theori cerddoriaeth a sut mae’n cyfrannu at gyfansoddi a chreadigrwydd.
Mae'r cwrs yn cynnwys cyfres o brosiectau a fydd yn meithrin eich sgiliau a'ch dealltwriaeth yn y meysydd hyn ac yn gorffen gyda phrosiect Cerddoriaeth Fawr Derfynol sy'n canolbwyntio ar faes o'ch dewis yr hoffech arbenigo ynddo neu ddysgu mwy amdano, er enghraifft perfformiad byw, cyfansoddi neu astudiaeth offerynnol.
Prosiectau enghreifftiol:
Perfformiad Cerddorol Byw - perfformio i gynulleidfa.
Cyfansoddi a gosod - cyfansoddi a chreu cerddoriaeth newydd.
Cynhyrchu - defnyddio gweithfannau sain digidol (Mac a Logic) i greu a chynhyrchu eich curiadau, rhigolau, cyfansoddiadau ac ailgymysgiadau eich hunain.
Stiwdio a Sesiwn Gallu cerddorol - sut i ddefnyddio theori gerddorol a gwybodaeth offerynnol wrth greu cerddoriaeth greadigol.
Cerddoriaeth Boblogaidd yn ei Chyd-destun - dadansoddi arddulliau a genres gwahanol a'u hystyr a'u lle mewn cymdeithas, yn ogystal ag edrych ar sut mae artistiaid yn defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o fynegi a chyfathrebu.

Mae’r holl unedau a’r prosiectau’n cael eu hasesu a’u dilysu’n fewnol. Yna bydd gradd gyffredinol yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau eich prosiect Cerddoriaeth fawr ac mae’n cael ei asesu’n fewnol ac allanol.
Er mwyn helpu i wella a datblygu eich sgiliau bydd tiwtoriaid yn rhoi adborth i chi’n rheolaidd wrth i chi weithio ar bob prosiect. Mae bob blynedd wedi’i wneud o gyfres o brosiectau meithrin sgiliau y mae’n rhaid i chi eu pasio cyn symud ymlaen at eich prosiect terfynol, a fydd yn cyfrannu tuag at eich gradd derfynol ar gyfer y flwyddyn.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu gymhwyster cyfwerth.
Mae pwnc Cerddoriaeth ar radd C/4 neu uwch yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol nac ar gyfer dysgwyr dilyniant cymhwyster Lefel 2.
Yn dilyn cyflwyno cais am y cwrs hwn, bydd gofyn i ddarpar ddysgwyr Lefel 3 hefyd gymryd rhan mewn prosiect mynediad ‘rhagflas’ byr, lle byddant yn cael cyfle i arddangos eu sgiliau offerynnol neu sgiliau cynhyrchu ymarferol ynghyd â’u gwaith ysgrifenedig. Cafodd y prosiect mynediad ‘rhagflas’ hwn ei lunio i gael amcan o ba mor addas yw dysgwr ar gyfer y cwrs ac i helpu dysgwyr i benderfynu ai’r cwrs yw’r dewis cywir i chi.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.

Mae cyflogwyr ac Addysg Uwch yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 3. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol a bydd yn cynorthwyo eich cais i brifysgol ar gyrsiau fel perfformio cerddoriaeth, cyfansoddi, cynhyrchu neu fusnes cerddoriaeth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Useful downloads
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024