Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01299 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. (Dwy flynedd os ydych yn dymuno cwblhau’r Diploma Estynedig, ar ôl cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus) |
Adran | Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad Gorffen | 27 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Gellir dilyn y Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Cynhyrchu fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn.
Mae'r Diploma mewn Cynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn Theatrau, Lleoliadau Cerdd, Gwyliau, Stiwdios Teledu a Ffilm a Rheoli Llwyfan, Digwyddiadau ac Artistiaid.
Byddwch chi’n dysgu sgiliau yn y meysydd cynhyrchu a rheoli llwyfan, goleuadau llwyfan, sain byw a sain wedi’i recordio, mapio tafluniadau, clyweledol, gwneud propiau, adeiladu golygfaol a gweithrediadau blaen y tŷ.
Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin yn alwedigaethol trwy weithio ar gynyrchiadau byw fel dramâu, gigiau a pherfformiadau cerddorol a hefyd trwy brosiectau sy'n benodol i safleoedd, gan roi cyfle i chi ddefnyddio’n greadigol y wybodaeth dechnegol a enillwyd trwy astudio’r cwrs.
Mae ffocws ar arferion gweithio safonol y diwydiant a byddwch yn datblygu portffolio o brofiad proffesiynol i'ch galluogi naill ai symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant, neu arbenigo ymhellach yn y brifysgol.
Mae'r cwrs hwn yn rhaglen alwedigaethol llawn amser sy’n addas ar gyfer mynediad i ystod o gyrsiau gradd israddedig yn genedlaethol.
Mae eich rhaglen dysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill Diploma Lefel 3 UAL mewn Celfyddydau Cynhyrchu.

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma (blwyddyn 1) rhaid i chi basio wyth uned yn llwyddiannus. Mae’r Uned 8, sy’n brosiect perfformiad cydweithredol, yn eich galluogi chi i ddangos popeth rydych chi wedi ei ddysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoddir graddau llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ar gyfer yr uned hon, ac mae’n pennu’r radd gyfansawdd ar gyfer y cymhwyster.
Er mwyn cyflawni cymhwyster y Diploma Estynedig (blwyddyn 2), rhaid i chi lwyddo mewn 12 uned gan gynnwys unedau 1–8 y Diploma yn ogystal ag Unedau 9-12. Mae Uned 12, sy’n brosiect estynedig, yn eich galluogi chi i ddangos popeth rydych chi wedi eu dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoddir graddau llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ar gyfer yr uned hon. Dyma sy’n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster a chaiff ei asesu’n fewnol ac yn allanol.

Bydd angen 5 neu ragor o TGAU gradd C/4 gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu ar gyfer dysgwyr dilyniant bydd angen cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Celfyddydau Creadigol fel Celfyddydau Perfformio yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.

Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa o fewn y diwydiant, neu Addysg Uwch yn astudio cyrsiau fel Rheoli Llwyfan, Dylunio a Thechnoleg Goleuo, Goleuo Pensaernïol, Astudiaethau Theatr Dechnegol, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Darlledu, Cynhyrchu Digwyddiadau Byw a Rheoli Digwyddiadau.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Useful downloads
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dawnsio ar gyfer clefyd Parkinson
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu Digwyddiadau Byw
diploma
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Diploma Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio
diploma