Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cerddoriaeth - Perfformio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00827
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, 1 – 2 flynedd
Adran
Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
27 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Gallwch astudio ar gyfer y Diploma fel naill ai fel Diploma 90 credyd un flwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yn heriol, yn werth chweil ac yn bleserus, gan gynnig profiad gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb brwd a dawn ym maes y pwnc.
Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o unedau a byddwch yn datblygu sgiliau trwy ystod o weithgareddau i’ch galluogi i lwyddo yn yr unedau hyn. Byddwch yn gweithio gydag ystod eang o dechnolegau cerddoriaeth ac yn meithrin sgiliau fel recordio, cynhyrchu cerddoriaeth, dylunio sain, dilyniannu a busnes cerddoriaeth. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn perfformiadau a digwyddiadau cyhoeddus. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymweliadau addysgol i helpu gyda’ch astudiaethau.
Byddwch yn astudio Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Ehangach ac maent yn rhan bwysig o'r rhaglen.
Y graddau ar gyfer pob uned yw ‘llwyddo’, ‘teilyngdod’ neu ‘ragoriaeth’ a bydd yn gofyn i chi gyflawni o leiaf gradd llwyddo ym mhob uned i fod yn gymwys ar gyfer gradd gyffredinol y cymhwyster.
O leiaf of 5 TGAU gradd A* – C, gan gynnwys Iaith Saesneg ac yn ddelfrydol TGAU Cerddoriaeth neu TG, neu’ch bod wedi llwyddo i gael lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth mewn Diploma Lefel 2 perthnasol.
Mae cyflogwyr ac Addysg Uwch yn rhoi gwerth uchel ar Ddiplomau Lefel 3. Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer gweithio yn y diwydiannau creadigol ac I wneud ceisiadau I brifysgolion a chyrsiau cyhoeddi cerddoriaeth, animeiddio, peirianneg darlledu, sain ffilmiau a theledu a chyfansoddi.
Fel arfer nid oes angen i fyfyrwyr amser llawn dalu ffioedd cyrsiau na ffioedd arholiadau ond mae’n rhaid i bob myfyriwr amser llawn dalu ffi gofrestru o £20. Bydd gofyn i chi hefyd dalu am ymweliadau addysgol a ffi’r gweithdy
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?