Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP51269 |
Lleoliad | Ffordd y Bers |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, llawn amser. |
Adran | Gwaith Brics |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'n cynnig cyflwyniad eang i ddysgwyr i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, ac yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth amdanynt. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn ymdrin â chyflwyniad i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes crefft, a bydd un ohonynt yn Gosod Brics. Mae'r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu datblygiad eu hunain.
● Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Cylch Bywyd Amgylchedd Adeiledig
● Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i Dechnolegau Newydd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.

4 TGAU gyda Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd D/3 neu uwch NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus .
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud eich gorau yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a bydd hynny’n gallu arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch

Un prawf atebion amlddewis wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n allanol.
Un prosiect sy’n ymdrin â dau faes crefft wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol.
Un drafodaeth dan arweiniad wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio’n fewnol.
Un prawf iechyd a diogelwch wedi’I osod yn allanol, a’I farcio’n fewnol.

Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth mewn crefft o’u dewis. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr nad oes ganddynt brentisiaeth yn dymuno parhau ar gwrs amser llawn y cymhwyster Dilyniant.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025