Lefel 2 Sgiliau Canolradd mewn Adeiladu - Paentio ac Addurno

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'n cynnig cyflwyniad eang i ddysgwyr i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, ac yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth amdanynt. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn ymdrin â chyflwyniad i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes crefft, y bydd un ohonynt yn Baentio ac Addurno . Mae'r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu datblygiad eu hunain.

● Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Cylch Bywyd Amgylchedd Adeiledig
● Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i Dechnolegau Newydd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.
Un prawf atebion amlddewis wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n allanol.
Un prosiect sy’n ymdrin â dau faes crefft wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol.
Un drafodaeth dan arweiniad wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio’n fewnol.
Un prawf iechyd a diogelwch wedi’I osod yn allanol, a’I farcio’n fewnol.
4 TGAU gyda Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd D/3 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth mewn crefft o’u dewis. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr nad oes ganddynt brentisiaeth yn dymuno parhau ar gwrs amser llawn y cymhwyster Dilyniant.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?