Diploma Lefel 3 C&G mewn Goruchwylio Bwyd a Diod ac Egwyddorion Arwain

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01303
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd.
3 neu 4 diwrnod yr wythnos, 9 am tan 4.45 pm
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn darparu unigolion gyda’r cyfle i arbenigo mewn swydd greadigol y maent yn angerddol amdani.

Mae'r cwrs lefel 3 hwn yn gweithio ar ddatblygu safonau uchel o sgiliau a gwybodaeth, gyda'r gallu i oruchwylio ac arwain eraill o fewn eich tîm.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso'r cwrs astudio i gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu blaen tŷ, gweini a derbynfa i gynnwys digwyddiadau ar y safle ac oddi arno. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori gysylltiedig, gweinyddu, tiwtorialau, sgiliau hanfodol, dysgu yn seiliedig ar adnoddau a datblygu portffolio.

Ochr yn ochr ag astudio’r cymhwyster Goruchwylio Bwyd a Diod, bydd y dysgwyr yn archwilio Egwyddorion Arwain yn y Diwydiant Lletygarwch ac yn dysgu am sgiliau a thechnegau a all gefnogi dysgwyr i gyflawni rolau goruchwylio a hyfforddi eraill mewn tîm.

Mae gan yr adran gysylltiadau cadarn gyda chyflogwyr lleol a Chenedlaethol sy'n gwella'r cyfleoedd i'r dysgwyr.

Mae elfen profiad gwaith gorfodol i’r cwrs hwn sy’n cynorthwyo datblygiad y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a diwydiant. Mae'r rhain yn digwydd yn ein bwyty masnachol, Bwyty Iâl a lleoliadau allanol. Yr unigolyn sy’n dod o hyd i’r profiad gwaith ac argymhellir yn gryf eich bod chi’n dechrau ystyried cyfle o fewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn digwyddiadau/digwyddiadau yn rhoi profiad i ddysgwyr o gael cymryd rhan yn llwyr mewn cynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiad i gwsmeriaid.

Yn ogystal â’r Diploma mewn Goruchwylio Bwyd a Diod, rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol ar y cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
Profiad gwaith
Amrywiaeth – goruchwylio, aseiniadau ysgrifenedig. Caiff yr asesiadau bwyd a diod eu cwblhau yn yr amgylchedd gweithio realistig yn y bwyty, digwyddiadau a phrofiad gwaith.

Mae ychydig o’r wybodaeth greiddiol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion papur byrion, mae mathau eraill o ddulliau asesu’n cynnwys aseiniadau/tasgau ymchwil gan gynnwys;

● Dylunio bwydlenni, gan gynnwys canllawiau maethol cyfredol.
● Creu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taenlenni gwybodaeth, taflenni a phosteri.
● Creu cyflwyniadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf) a dwy flynedd o brofiad diwydiant mewn Arlwyo a Lletygarwch (rydym yn argymell hyn) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 galwedigaethol perthnasol yn llwyddiannus.

Bydd archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol.

Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o rolau lletygarwch gan gynnwys:

● Goruchwylydd bar
● Goruchwylydd blaen tŷ
● Rheolwr bwyty neu arlwyo
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Useful downloads
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?