Diploma Lefel 3 C&G mewn Coginio Proffesiynol Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01306
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser ydy hwn
3 neu 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9 am tan 4.45 pm


Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i unigolion arbenigo mewn rôl lle mae eu hangerdd a'u creadigrwydd yn cael eu hamlygu.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu safonau uchel o sgiliau a gwybodaeth, gyda'r gallu i oruchwylio ac arwain eraill yn eich tîm.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso'r cwrs astudio i gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu yn y bwtri, cynnyrch crwst a'r gegin, i gynnwys swyddogaethau ar ac oddi ar y safle. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori, gweinyddu, tiwtorialau cysylltiedig, sgiliau hanfodol, dysgu seiliedig ar adnoddau a datblygu portffolio.

Mae gan yr adran gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a chenedlaethol sy'n gwella'r cyfleoedd i'r dysgwyr.

Mae yna elfen o brofiad gwaith gorfodol i'r cwrs hwn sy'n cefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a'r diwydiant.
Mae'r rhain yn digwydd yn ein bwyty masnachol, Bwyty Iâl a lleoliadau allanol.

Yr unigolyn sy’n gyfrifol am ddod o hyd i’r rhain ac argymhellir yn gryf eich bod yn dechrau ystyried cyfle mewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn achlysuron/digwyddiadau yn darparu’r dysgwyr gyda'r profiad o gael eu trwytho’n llawn yn y broses o gynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiad neu achlysur i gwsmeriaid.

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau iaith Gymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu ddwy flynedd o brofiad diwydiant mewn Arlwyo a Lletygarwch (argymhellir hyn)
neu radd llwyddo o leiaf ar gyfer Diploma lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Gradd llwyddo yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

Bydd archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eicharholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Amrywiaeth – arsylwi, aseiniadau ysgrifenedig. Asesir unedau coginio’r cwrs hwn drwy brofion synoptig wedi’u hamseru / coginio prydau unigol a nodir ym meini prawf y cwrs.

Caiff peth o’r wybodaeth sylfaenol ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byr, mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys aseiniadau ymchwil/tasgau gan gynnwys:

● Dylunio bwydlenni, a rhoi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol.
● Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/dalennau gwybodaeth, taflenni, posteri
● Cynhyrchu cyflwyniadau.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y Diploma mewn Coginio Proffesiynol eich helpu i ddod o hyd i swydd fel:
● Rheolwr arlwyo
● Chef
● Chef cynnyrch crwst
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?