Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 C&G mewn Blodeuwriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00259
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser, 3 neu 4 diwrnod yr wythnos 9-4.45.
Adran
Blodeuwriaeth
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr creadigol sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn blodeuwriaeth. Mae’r cwrs yn cynnwys ystod o sgiliau blodeuwriaeth sy’n hanfodol i’r diwydiant blodeuwriaeth, gan gynnwys dyluniadau fel clymu, gosod blodau ar gyfer angladdau a phriodasau. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar enwau botanegol blodau a phlanhigion, yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant a pha sefydliadau sy’n cefnogi gwerthwyr blodau heddiw.
Fel rhan o’r cwrs bydd y myfyrwyr yn mynd ar deithiau ac ymweliadau addysgol diddorol, a phrofiad gwaith.

Mae pwyslais mawr ar brofiad gwaith fel rhan o'r cymhwyster hwn ac mae gofyn ichi gwblhau o leiaf 150 awr o brofiad gwaith yn ystod y cwrs.

Byddwch chi’n dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd a gwaith ymarferol, yn ogystal â defnyddio ystod o dechnolegau dysgu ddigidol.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen, a byddwn ni’n gweithio gyda chi i wella’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) NEU Wedi cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus sy’n gorfod cynnwys cyflawniad rhifedd a llythrennedd

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd y cwrs yn cael ei asesu gan ddefnyddio dull synoptig sy’n cynnwys arholiad ysgrifenedig, asesiad dan reolaeth o sgiliau ymarferol, Profiad Gwaith ac Iechyd a Diogelwch.

Byddwch chi’n cymryd rhan mewn ystod o asesiadau a ffug arholiadau ffug trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Mae disgwyliad cryf bod gwaith yn cael ei wneud gartref i gefnogi dysgu ar y cwrs.

Byddwch chi hefyd yn treulio cyfnod mewn lleoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant Blodeuwriaeth.

– Astudio Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
– Profiad gwaith – mae’n orfodol cwblhau 150 awr o brofiad gwaith

Symud ymlaen i gwrs AB Lefel 3 neu Brentisiaeth Lefel 3 yn y Gwaith mewn Blodeuwriaeth.

Nod y cwrs yw cynorthwyo dysgwyr i gael gwaith fel gwerthwr masnachol blodau mewn busnes Blodeuwriaeth. Dylai myfyrwyr llwyddiannus ystyried gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau dylunio a goruchwylio uwch.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?