Lefel 1 Sgiliau Rhagarweiniol mewn Adeiladu - Gwaith Saer ac Asiedydd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87934
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos).
Adran
Gwaith Saer ac Asiedydd, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr Llawn Amser sydd eisiau dod yn Saer ac Asiedydd yn y diwydiant Adeiladu. Bydd y rhaglen yn cynnwys myfyrwyr yn mynychu sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth I ennill gwybodaeth greiddiol a sesiynau ymarferol yn ein gweithdai hefyd.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr I ddatblygu eu hyder, gwybodaeth, profiad a’u sgiliau Saer ac Asiedydd a byddant yn cael eu cofrestru ar Ddiploma L1 Gateway Qualifications mewn Adeiladu ac Adeiladau.

Mae unedau’n cynnwys:-

● Iechyd, diogelwch a llesiant mewn diwydiannau Adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
● Gweithio yn y maes Adeiladu
● Ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y maes Adeiladu
● Cyrchu offer yn y maes Adeiladu
● Anheddau Preswyl yn y maes Adeiladu
● Offer pŵer
● Sgiliau Llaw Saer
● Sgiliau Saer ar Safle
● Nwyddau Dŵr Glaw
● Gwaith Coed

Bydd angen cwblhau ystod o asesiadau gan gynnwys:-

- Asesiadau ymarferol yn y gweithdy
- Arholiadau ysgrifenedig
- Arholiadau amlddewis ar-lein
- Gwaith prosiect
- Trafodaethau
- Gwaith Portffolio
- Tystiolaeth ffotograffaidd

Disgwylir I ddysgwyr hefyd gwblhau naill ai Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen a chwblhau rhaglen tiwtor personol gyda nhw. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn I ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen I helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn I fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf)

I ddysgwyr sydd am symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen yn eich Mathemateg a’ch Saesneg, a bod wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich cynllun dysgu unigol.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu nhw i gyflawni eu cymhwyster i gynorthwyo symud ymlaen mewn Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf trwy gydol y cwrs. Gallen nhw symud ymlaen i un o’r canlynol:

– Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
– Twf Swyddi Cymru+
– Cyflogaeth
– Rhaglen yn y gymuned
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?