L1 Sgiliau Rhagarweiniol mewn Adeiladu - Gosod Brics

Rhestr Fer

  • Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87933
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos).
Adran
Gwaith Brics, Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd eisiau dod yn Osodwyr Brics yn y diwydiant Adeiladu. Bydd y rhaglen yn cynnwys myfyrwyr yn mynychu sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth i ennill gwybodaeth greiddiol a sesiynau ymarferol yn ein gweithdai hefyd.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, gwybodaeth, profiad a’u sgiliau Gosod Brics a byddant yn cael eu cofrestru ar Ddiploma L1 Gateway Qualifications mewn Adeiladu ac Adeiladau.

Mae unedau’n cynnwys -

● Iechyd, diogelwch a llesiant mewn diwydiannau Adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
● Gweithio yn y maes Adeiladu
● Ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y maes Adeiladu
● Cyrchu offer yn y maes Adeiladu
● Anheddau Preswyl yn y maes Adeiladu
● Sgiliau Gosod Brics Sylfaenol
● Sgiliau Gosod Blociau Sylfaenol
● Adeiladu Waliau Ceudod
● Adeiladu Waliau Bloc/Tyllau mewn Gwaith Brics


Bydd angen cwblhau ystod o asesiadau gan gynnwys -

- Asesiadau ymarferol yn y gweithdy
- Arholiadau ysgrifenedig
- Arholiadau amlddewis ar-lein
- Gwaith prosiect
- Trafodaethau
- Gwaith Portffolio
- Tystiolaeth ffotograffaidd


Disgwylir i ddysgwyr hefyd gwblhau naill ai Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen a chwblhau rhaglen tiwtor personol gyda nhw. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools