Diploma Lefel 3 mewn Datblygu Gemau a TG (Uwch)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51292
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd lawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae astudio Datblygu Gemau a TG yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynnyrch arloesol a thechnoleg newidiol yn y sector sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae’n eich rhoi chi yn y lle gorau un i wneud y mwyaf o’r amgylchedd digidol hwn ac elwa’n llawn ar eich potensial CHI.

Mae cyfrifiaduron yn bodoli ym mhob agwedd o’n byd. Gallai gyrfa yn y diwydiant arloesol sy’n symud yn gyflym hwn fod yn eiddo i chi.

Bydd y cwrs hwn yn eich darparu gyda’r cyfuniad cywir o sgiliau i ddatblygu eich gyrfa, gan sicrhau eich bod yn cael y cyfuniad cyffredinol gorau o sgiliau i lwyddo.

Cyflwynir y cwrs hwn mewn amgylchedd ymgolli, lle byddwch yn cyfranogi’n llawn o agweddau niferus ar ddatblygu gêmau a thechnolegau TG digidol wrth i chi ddysgu’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen er mwyn bod yn llwyddiannus yn eich dyfodol. Byddwch yn caffael gwybodaeth gyflawn, profiad a sgiliau trosglwyddadwy fel y gallwch symud ymlaen i Brifysgol neu yrfa mewn nifer o wahanol feysydd.


Mae’r meysydd y byddwch yn dysgu amdanynt ar y cwrs yn cynnwys;

● Systemau Technoleg Gwybodaeth
● Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth
● Defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
● Rhaglennu
● Dylunio Gwefannau
● Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
● Rheoli Prosiect TG
● Seiberddiogelwch a Rheoli Digwyddiadau
● Cyflenwi Gwasanaeth TG
● Menter mewn TG
● Graffeg 2D a 3D Digidol
● Animeiddio ac Effeithiau Digidol
● Datblygu Apiau Symudol

Yn ail flwyddyn y cymhwyster, cewch ddewis rhwng gwneud cais am le mewn Prifysgol trwy’r broses UCAS, neu ymuno â’r rhaglen TG Uwch, a fydd yn eich darparu gyda sgiliau a chefnogaeth ychwanegol gyda’r nod o symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu er mwyn rhoi’r hyder i chi allu cymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle, a chael y sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod hon o asesiadau galwedigaethol, ymarferol ac ysgrifenedig, yn golygu y gallwch arddangos eich dysgu a’ch cyraeddiadau yn y ffordd orau wrth gymryd eich cam nesaf, boed hynny yn gais ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae pedwar arholiad/tasg, I gyd wedi’u hasesu’n allanol, wedi’u gwasgaru ar draws y 2 flynedd lawn.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC 2-flynedd lawn mewn Datblygu Gemau yn cymhwyso ar gyfer pwyntiau UCAS, gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr.

Gallwch fynd ymlaen i brifysgol, prentisiaeth neu waith cyflogedig a pharhau i ddatblygu eich gyrfa TG… mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw!

Dyma rai cyfleoedd posibl ym maes Datblygu Gemau:-

Dylunydd Gemau
Dylunydd Gwefannau
Datrysiadau Technoleg Ddigidol
Technegydd Cefnogi Systemau
Technegydd Cefnogi TG
Dadansoddwr Data
Rheolaeth TG ar gyfer Busnes
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Ddatblygol
Dylunydd Meddalwedd
Cyfrifiadura Busnes ac Entrepreneuriaeth
Dadansoddwr Systemau
Datblygwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?