Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG - Diploma - Lefel 2

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00009
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Technoleg Gwybodaeth yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau mewn TG ac yn eich darparu gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen o safle cryf.

Cewch gyfle i gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth eang o’r sector Technoleg Gwybodaeth, ynghyd ag agweddau o’r diwydiannau creadigol.

Byddwch yn archwilio hanfodion technoleg ac yn caffael y wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ymarferol i ddylunio, gwneud ac adolygu’r gwahanol fathau o dechnolegau meddalwedd a chaledwedd. Mae hyn yn cynnwys sgiliau TG sylfaenol, yn ogystal â chodio, dylunio gwe, a chymorth TG.
4 TGAU gradd D/3 gan gynnwys Mathemateg a (Chymraeg Iaith Gyntaf) / Iaith Saesneg, neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster perthnasol Lefel 1 yn llwyddiannus ar lefel Teilyngdod NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Cewch eich asesu trwy gyfuniad o aseiniadau, profion ar-lein a thasgau ymarferol yn gysylltiedig â gwaith. Bydd eich tiwtor yn asesu eich aseiniadau a byddant yn cael eu safoni gan BTEC.
Bydd cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus yn rhoi cyfleoedd i chi symud ymlaen i ddysgu pellach yn Lefel 3, prentisiaeth neu waith cyflogedig.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?