Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01344
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser sy’n cael ei gynnal o fis Medi i fis Mehefin
3 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9 am tan 4.45 pm

Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Cafodd y cwrs hwn ei ddylunio i ddarparu cyflwyniad cyffredinol i
ddiwydiant Teithio a Thwristiaeth i’r rhai sydd eisiau datblygu eu
gyrfa o fewn un o’i sawl faes galwedigaethol cysylltiedig.

Dyma unedau enghreifftiol y gallwch chi eu hastudio fel rhan o’r
cwrs:

● Twristiaeth yn y DU
● Meysydd Awyr a Chwmnïau Hedfan
● Deall Twristiaeth Arbenigol
● Cyflwyniad i Deithiau Tywys
● Profiad gwaith mewn Teithio a Thwristiaeth
(gellir newid yr unedau hyn)

Mae profiad gwaith yn elfen hanfodol o’r cwrs, sy’n ategu datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a’r diwydiant.

Mae elfen profiad gwaith gorfodol i’r cwrs hwn sy’n cefnogi datblygiad y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a diwydiant.

Yn ogystal â’r Diploma Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau iaith Gymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith gyntaf), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawni cymhwyster rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Ceir asesu parhaus drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, a fydd yn cynnwys cyflwyniadau a chwarae rôl.

Mae rhai unedau yn cael eu hasesu’n fewnol drwy brofion ysgrifenedig (uchafswm o 25%).

Gellir cynnal rhai asesiadau hefyd ddigwydd mewn amgylcheddau gwaith go iawn ar leoliadau profiad gwaith mewn sefydliadau allanol.
Gallwch chwilio am waith yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth, neu symud ymlaen i’r cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 os ydych wedi cyflawni’r graddau gofynnol ac wedi bodloni’r meini prawf mynediad.

Gweinydd Hedfan
Tywysydd Teithiau
Trefnwr Teithiau
Ymgynghorydd Mordeithio
Blogiwr teithio
Cynrychiolydd Cyrchfan Gwyliau
Cyflogaeth ar Long Fordeithio
Asiant Gwasanaeth i Deithwyr Maes Awyr
Cynadledda a Digwyddiadau
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?