Diploma Lefel 2 C&G mewn Lletygarwch ac Arlwyo

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01536
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser ydy hwn
4 diwrnod yr wythnos
9 am tan 4.45 pm

Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae lletygarwch ac arlwyo yn ddiwydiant cyffrous ac amrywiol sy'n cynnwys caffis, bariau, bwytai, gwyliau bwyd, gwestai, siopau coffi a llawer mwy o feysydd oddi mewn iddo.

Cynigir y diploma Lefel 2 yn llawn amser sy'n cynnwys coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd a diod.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso'r cwrs astudio i gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu yn y bwtri, cynnyrch crwst a'r gegin, gweini blaen tŷ a derbynfa i gynnwys achlysuron ar ac oddi ar y safle. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori, gweinyddu, tiwtorialau, dysgu seiliedig ar adnoddau a datblygu portffolio.

Mae yna elfen o brofiad gwaith gorfodol i'r cwrs hwn sy'n cefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a'r diwydiant.
Mae'r rhain i'w cael ym Mwyty Iâl, ein bwyty masnachol ar y safle ac mewn lleoliadau lletygarwch allanol. Yr unigolyn sy’n gyfrifol am ddod o hyd i'r lleoliadau allanol ac argymhellir yn gryf eich bod yn dechrau ystyried cyfle mewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr cyn gynted ag y byddwch yn dechrau'r cwrs.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn achlysuron/digwyddiadau yn darparu dysgwyr gyda’r profiad o gael eu trwytho'n llawn wrth gynllunio, paratoi a chyflwyno digwyddiad neu achlysur i gwsmeriaid.


Mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol o'r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau iaith Gymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawni cymhwyster

Bydd yna archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod chi ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Amrywiol – arsylwi, aseiniadau ysgrifenedig. Asesir unedau coginio’r cwrs hwn trwy brofion synoptig wedi’u hamseru / coginio prydau unigol a nodir o fewn meini prawf y cwrs. Mae’r asesiadau bwyd a diod yn cael eu cwblhau o fewn amgylchedd gwaith realistig y bwyty, digwyddiadau, achlysuron a phrofiad gwaith.

Mae rhywfaint o’r wybodaeth sylfaenol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byr, mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys aseiniadau ymchwil / tasgau gan gynnwys:

Dylunio bwydlenni, gan roi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol. Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/dalennau gwybodaeth, taflenni a phosteri. Cynhyrchu cyflwyniadau.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o swyddi lletygarwch:

● Staff bar
● Gwasanaeth bwrdd neu gownter
● Cymhorthydd cegin
● Cadw tŷ
● Gweinyddu
● Chef
● Chef Crwst
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?