Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01271 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd sy’n dechrau ym mis Medi tan fis Mehefin Cwrs 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg (9am tan 4.45pm) Ar rai achlysuron bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiadau gyda’r nos Bydd dysgwyr yn cael amserlen yn ystod y cyfnod Ymsefydlu. |
Adran | Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y cwrs hwn yw datblygu sgiliau ar gyfer gweithio yn y diwydiant colur y cyfryngau. Bydd dysgwyr sydd â diddordeb mewn Lefel 2 mewn Trin Gwallt a Cholur i’r Cyfryngau yn astudio agweddau theori o’r pwnc a’u cymhwyso yn y tasgau ymarferol. Datblygir sgiliau rhyngbersonol y myfyrwyr hefyd, a fydd yn eu helpu i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid. Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio o’u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r dystiolaeth asesu. Mae’r rhaglen yn darparu’r sgiliau a’r rhinweddau personol sydd eu heisiau gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.
Mae rhai enghreifftiau o’r unedau byddwch yn eu hastudio yn cynnwys:
● Colur ar gyfer ffotograffiaeth
● Paentio’r corff a’r wyneb
● Triniaethau’r amrannau a’r aeliau
● Trin a steilio gwallt
Yn ogystal, mae’r rhaglen maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol ar gyfer y cwrs:
● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfnod mewn lleoliad gwaith
Sylwch y gall eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda'r nos. Bydd eich tiwtor yn rhannu’r dyddiadau yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sydd yn gorfod cynnwys cyflawniad o rifedd a llythrennedd. .
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Bydd gwaith cwrs yn cynnwys asesu parhaus ac asesiadau ymarferol a theori.
Y llwybrau dilyniant i ddysgwyr fydd at Ddiploma Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig Theatrig a Cholur y Cyfryngau neu weithio yn y sector celfyddyd colur creadigol.
Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu Dorri Gwallt Dynion neu Lefel 2 mewn Therapi Harddwch ac Ewinedd (i’r dysgwyr hynny sydd eisiau arbenigo)
Mae cyflogaeth yn y sector yn amrywiol a gall gynnwys gweithio mewn ffilmiau, ffasiwn, teledu neu theatr.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025