Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig, Effeithiau Arbennig a Chyfryngau

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01034
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw datblygu a mireinio sgiliau uwch ar gyfer gweithio yn y diwydiant colur Theatrig a Chyfryngol. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau a fydd yn galluogi cynhyrchu colur effeithiau arbenigol ar gyfer cystadlaethau, tynnu lluniau, teledu a theatr. Mae gwybodaeth sylfaenol o lefel 2 naill ai mewn rhaglenni gwallt neu harddwch yn ddymunol i archwilio'r sgiliau creadigol sydd eu hangen ar gyfer y cwrs hwn.

Enghraifft o rai o’r unedau y byddwch chi’n astudio ydy:

● Colur cyfryngau
● dylunio gwallt creadigol
● Ffasiwn a cholur ffotograffig
● Celf wyneb a chorff uwch
● Colur cuddliw

Yn ogystal, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu llythrennedd a rhifedd
● Datblygu sgiliau iaith Gymraeg
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau lleoliad gwaith

Cwblhau rhaglenni maes dysgu Lefel 2 Gwallt a Chyfryngau Colur, Therapi Harddwch Lefel 2 neu Lefel 2 maes dysgu trin gwallt yn llwyddiannus a gradd llwyddo neu uwch mewn Sgiliau Hanfodol/cymwysterau TGAU.
Gwneir gwaith cwrs trwy asesu asesiadau ymarferol a damcaniaethol yn barhaus

Profiad gwaith o fewn sefydliad masnachol e.e. theatr neu stiwdio ffotograffig yn rhan o’r cwrs i alluogi’r dysgwr i weithio dan gyfarwyddyd.

Y llwybrau dilyniant ar gyfer dysgwyr bydd i addysg uwch neu i weithio yn y sector celfyddyd colur creadigol.

Mae cyflogaeth yn y sector yn amrywiol a gall gynnwys gweithio mewn ffilmiau, ffasiwn, teledu neu theatr.Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen I addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?