Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01418 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos). |
Adran | Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 02 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 20 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae Mynediad i Sgiliau Adeiladu yn cynnig rhaglen a gefnogir yn llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y Coleg.
Bydd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau a all fod ganddyn nhw at ddysgu, gan eu galluogi i ddatblygu’n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial yn llwyddiannus a symud ymlaen i’w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, a sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Byddan nhw’n profi gwahanol feysydd galwedigaethol ac yn cynnal gweithdai ymarferol wythnosol yn y maes Crefftau Adeiladu. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gosod Brics
Gwaith Saer ac Asiedydd Carpentry and Joinery
Sgiliau Plymwaith
Bydd gweithgareddau cyfoethogi yn meithrin sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arwain, gan helpu i feithrin hyder a goresgyn unrhyw bryderon neu rwystrau cymdeithasol. Yn ystod y gweithgareddau hyn, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Dystysgrif Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Efydd Dug Caeredin.
Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ac unwaith y byddan nhw’n barod, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Mae’r cwrs yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.
Bydd Anogwr Cynnydd yn cael ei bennu i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a all godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i'w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dridiau’r wythnos a bydd yn gymysgedd o sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, gweithdy ac oddi ar y safle.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau ar y cwrs hwn.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i gyflawni cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr efydd Dug Caeredin i’w cynorthwyo i symud ymlaen i addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith.
Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf trwy gydol y cwrs. Gallen nhw symud ymlaen i un o’r canlynol:
Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
Twf Swyddi Cymru+
Cyflogaeth
Rhaglen yn y gymuned.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025