Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs yn addas i'r rheini sydd eisiau cyflwyniad i'r sector Gwallt a Harddwch.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau trin gwallt, harddwch a chyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod ganddynt ystod o wybodaeth i'w galluogi i symud ymlaen o fewn y sector. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol i ddatblygu eu sgiliau a'u theori yn y dosbarth i ddatblygu eu gwybodaeth.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen, gyda phob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Pennir Anogwr Bugeiliol i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eu lle cyn i ddysgwyr gychwyn a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth ystafell ddosbarth a gweithdai.
Bydd dysgwyr yn cyflawni eu cymhwyster drwy gwblhau gwaith cwrs a asesir yn fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
Mae 4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) yn hanfodol ar gyfer y rhaglen hon.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad, rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Symud ymlaen i gwrs lefel 2, fel y rhai a gynigir mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, Twyf Swyddi Cymru+, rhaglen brentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?