Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00299
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos).
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd eisiau dod yn Seiri Coed ac Asiedyddion yn y Diwydiant Adeiladu. Bydd y rhaglen yn cynnwys myfyrwyr sy'n mynychu sesiynau dosbarth damcaniaethol i gael y wybodaeth ategol a hefyd yn mynychu sesiynau ymarferol yn ein gweithdai.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, gwybodaeth, profiad a sgiliau mewn Gwaith Saer a Gwaith Asiedydd a byddant yn cael eu cofrestru ar Ddiploma L1 Gateway Qualifications mewn Adeiladu a Gwaith Adeiladu.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, gwybodaeth, profiad a sgiliau mewn Gwaith Saer a Gwaith Asiedydd a byddant yn cael eu cofrestru ar Ddiploma L1 Gateway Qualifications mewn Adeiladu a Gwaith Adeiladu.

Mae’r unedau yn cynnwys -

● Iechyd, diogelwch a llesiant mewn Gwaith Adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
● Gweithio mewn Gwaith Adeiladau
● Ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn Gwaith Adeiladu
● Cael gafael ar offer mewn Gwaith Adeiladu
● Anheddau Preswyl mewn mewn Gwaith Adeiladu
● Offer Pŵer
● Sgiliau Llaw Gwaith Saer
● Sgiliau Safle Gwaith Saer
● Nwyddau dŵr glaw
● Gwaith Pen


Bydd angen cwblhau ystod asesiadau sy’n cynnwys -

- Asesiadau Ymarferol yn y gweithdy
- Arholiadau ysgrifenedig
- Arholidau amlddewis ar-lein
- Gwaith prosiect
- Trafodaethau
- Gwaith portffolio
- Tystiolaeth ffotograffig


Mae disgwyl i ddysgwyr hefyd gwblhau naill ai Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau Mathemateg a Saesneg presennol.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael Anoger Cynnydd a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen ac yn cwblhau rhaglen hyfforddiant personol gyda nhw. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn er mwyn bodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Cyflwynir y rhaglen dros dridiau a bydd yn gymysgedd o ystafell ddosbarth a gweithdy.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at amrywiaeth o unedau i’w helpu i gyflawni eu cymhwyster i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:

– Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
– Twyf Swyddi Cymru+
– Gwaith
– Rhaglen yn y gymuned
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?