Y Cyfryngau i'r Niwroamrywiol

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87953
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs llawn amser 1 flwyddyn.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Dysgu Sylfaen, Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Cyfryngau Niwroamrywiol yn gwrs cynhwysol wedi’i gefnogi’n llawn sy'n darparu amgylchedd dysgu sy'n gweddu orau i ddysgwyr ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i fodloni anghenion a galluoedd ymadawyr ysgol a fyddai'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i'r coleg trwy'r llwybr prif ffrwd traddodiadol.

Mae ein rhaglenni Niwroamrywiol yn mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag dysgu sy'n gysylltiedig â sgiliau cyfathrebu cymdeithasol a'u nod yw goresgyn y rhain i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd neu i waith/cyflogaeth yn y sector o’u dewis nhw.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

● Rhaglen un flwyddyn a fydd yn arwain at y cam nesaf: gwaith/cyflogaeth, interniaeth â chymorth neu symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd yn unol â chanlyniadau Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP)/CDU
● Bydd y ddarpariaeth pwnc craidd yn y Cyfryngau yn cael ei gwahaniaethu i fodloni anghenion dysgwyr ar eu lefel o ddysgu a nodwyd. Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r pwnc i roi blas iddynt fel y gallant symud ymlaen y flwyddyn ganlynol
● Bydd y rhaglen yn cynnwys darparu Sgiliau Bywyd a fydd yn elfen graidd o'r rhaglen: Cyflogadwyedd, Iechyd a Llesiant, Sgiliau Byw'n Annibynnol a Chymunedol
● Bydd sesiynau profi diwydiannol grŵp yn cael eu cynnwys yn y rhaglen i ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith go iawn.
● Bydd y dysgwyr yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Mathemateg a Saesneg ar lefel eu gwaith
● Mae'r rhaglen yn cael ei chefnogi'n llawn
● Pontio personol drwy fentor ASD
● 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg
● Ystafell ddosbarth bwrpasol - dim mwy na 10 o ddysgwyr mewn dosbarth
● Wedi’i lleoli yng Nglannau Dyfrdwy
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod â diddordeb yn y maes pwnc a bod ganddynt Gynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol sy’n amlinellu anhawster cyfathrebu cymdeithasol cymhleth gyda diagnosis o Awtistiaeth.
Asesu parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid.

Asesiadau gwaelodlin a thargedau unigol a adolygir gan ddefnyddio RARPA.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau AB prif ffrwd, cyflogaeth neu interniaeth â chymorth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?