Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01027
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Blwyddyn
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 1 yn cynnig cyflwyniad i dechnolegau digidol a chyfryngau creadigol gyda rhaglen astudio ymarferol, a fydd yn herio ac yn datblygu sgiliau’r dysgwyr.

Bydd dysgwyr yn dysgu'r cysyniad o ddatblygu drwy’r camau cynhyrchu gwahanol, gan ddefnyddio offer safon diwydiant yn ystod gweithgareddau cyfryngau creadigol.

Mae’r diwydiant E-Chwaraeon yn tyfu ac mae amrywiaeth anferth o fathau o waith ar gael i rywun mewn E-chwaraeon. Mae’r rhain yn amrywio o swyddi cynllunio digwyddiadau, marchnata a brandio i hyfforddi a strategaeth gemau i gynhyrchu fideo a llawer rhagor.

Mae’r cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector hwn. Nid yw’r cyfan yn ymwneud â chwarae gemau, ac ychydig iawn o brofiad chwarae gemau y byddwch yn ei gael, ar gyfer asesiadau.

Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymarferol trwy ystyried sut gaiff TG ei ddefnyddio mewn diwydiant a masnach, gan ddefnyddio ystod o gymwysiadau meddalwedd.

Mae’r cwrs hwn wedi’i seilio ar asesiadau, nid yw’n cynnwys arholiadau ffurfiol, bydd myfyrwyr yn astudio unedau amrywiol.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Byddwn yn penodi Anogwr Bugeiliol i bob dysgwr a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr ffynnu. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwi. gwaith ymarferol a thasgau ysgrifenedig
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:

Lefel 2 mewn TG, Cyfryngau neu E-chwaraeon, neu gwrs newydd mewn maes galwedigaethol arall o’ch dewis chi.

Hyfforddeiaeth neu raglen brentisiaeth.

Cyflogaeth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?