Trosolwg o’r Cwrs

Mae hwn yn gwrs sy’n cynnig cyfle i ddeall ystod eang o feysydd pwnc ym myd busnes, a fydd yn cynorthwyo dysgwyr i ennill cyflogaeth, gwneud cais am brentisiaeth neu fynd ymlaen i astudio pellach ar ein cwrs lefel 3 mewn Busnes (menter neu Entrepreneuriaeth).

Mae’r cwrs hwn yn gyfle anhygoel I ennill gwybodaeth a sgiliau y mae dysgwyr eu hangen yn eu gyrfa ac mae’n blatfform gwych ar gyfer Lefel 3 mewn Busnes. Bydd dysgwyr yn cyfarfod amrywiaeth o berchnogion busnes, rheolwyr a gweithwyr o fusnesau lleol bach, canolig a mawr. Byddant yn sgwrsio am sut mae’r theori’n gweithio mewn busnesau go iawn a sut beth yw gweithio ym myd Busnes.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar astudio ystod o feysydd pwnc, gyda rhai unedau gorfodol fel Cyllid Busnes a Marchnata (Unedau Arholiad), yn ogystal ag unedau busnes allweddol eraill fel
Cynllunio Busnes Bach
Gweithio mewn Tîm
Ymchwilio Gwasanaethau I Gwsmeriaid. Hefyd
mae unedau eraill yn cynnig cyflwyniad eang i’r byd Busnes; yn ogystal â chynnig sgiliau bywyd gwerthfawr.
Asesir y cwrs drwy ystod o weithgareddau dysgu o greu flogiau a gwneud cyflwyniadau i ysgrifennu aseiniadau.

Hefyd mae’n cynnwys cynllunio a rhedeg busnes, yn ogystal â chymryd rhan mewn ymarferion tîm a gweithio fel rhan o dîm. Mae hyn yn galluogi profiad ymarferol, a datblygu sgiliau cymdeithasol allweddol sydd eu hangen mewn bywyd.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg (Iaith Gyntaf)/Iaith Saesneg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall arwain at ystod o swyddi sy’n ymwneud â busnes.

Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi hyn ar gael drwy Siop Swyddi ac maent hefyd yn cynnig cymorth mewn datblygu CV a thechnegau cyfweliad i roi’r siawns gorau i sicrhau swydd, prentisiaeth neu weithio tuag at ennill lle ar gwrs Lefel 3 yn y coleg.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd cyfle i wneud cais am y Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth). Bydd hwn yn llwybr dilyniant naturiol i Brentisiaethau Uwch yn ogystal â rhoi cyfle i symud ymlaen i’r Brifysgol, ar ôl cwblhau Lefel 3.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?