Diploma lefel 3 Sylfaen mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00017
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymhwyster hwn yn un flwyddyn o gymhwyster dwy flynedd, ond gellir ei astudio am flwyddyn a bod yn gymhwyster sy’n gyfwerth â 1.5 cymhwyster Safon Uwch.

Ond mae’n well astudio’r cwrs dros y ddwy flynedd er mwyn cael mwy o ddyfnder a phrofiad yn y meysydd busnes.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Sylfaen yn flwyddyn gyntaf o gwrs dwy flynedd.

Mae chwe uned i'w hastudio ym mlwyddyn gyntaf y cwrs, a fydd yn rhoi cyflawniad a dealltwriaeth i ddysgwyr am yr amgylchedd busnes.
Ystyried datblygu ymgyrchu marchnata, astudio cyllid personol a busnes a chymhwyso sgiliau hanfodol trwy gynllunio/lansio eu busnes eu hunain.
Yn ogystal, edrych ar Fentrau Cymdeithasol, sut mae angen i fusnesau addasu i newid a sut maent yn gweithio gydag arloesedd a chreadigrwydd.
Mae'r rhain i gyd yn bwysig i lwyddiant busnes sefydliadau yn ogystal â'r lle sydd gan fusnes yn ein bywydau.


Mae Bagloriaeth Cymru Ôl-16 Uwch yn rhan o’r rhaglen astudio a bydd yn cynnig cyfle i’r dysgwr ennill ymwybyddiaeth bersonol a chymdeithasol bellach trwy gyflwyno’r Her Menter Fyd-eang a’r Her Gymunedol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg (Iaith Gyntaf)/Saesneg, NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Asesir dwy uned trwy arholiadau:

Mae Uned 2 – Datblygu Ymgyrch Marchnata
Uned 3 – Cyllid Personol a Busnes

yn arholiadau sydd wedi’u gosod trwy’r corff dyfarnu (BTEC Pearson).

Mae’r pedair uned arall yn cael ei hasesu trwy brosiectau bywyd go iawn, gyda myfyrwyr yn rhedeg eu busnes eu hunain (lle byddant yn cymhwyso’u holl wybodaeth o’r tymor cyntaf), lle bydd sgiliau yn cael eu datblygi o ran sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â meithrin hyder wrth ddefnyddio sgiliau trafod, gallu cyfathrebu’r tu allan I gylchoedd cymdeithasol, ac edrych ar sut mae busnesau’n gallu bod yn broffidiol yn ogystal â bod yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn foesol.

Mae aseiniadau ysgrifenedig yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith realistig, gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd hanfodol, yn ogystal ag asesu trwy bodledu, trafodaethau 1 I 1, fideos a chyflwyniadau yn rhan o ddull asesu ymarferol.
Gall dysgwyr symud ymlaen ymhellach i Ddiploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth) ar ôl cwblhau’r Diploma Sylfaen yn llwyddiannus.

Mae’r Diploma Estynedig yn gyfwerth â 3 Safon Uwch sy’n galluogi i ddysgwyr symud ymlaen i gyrsiau gradd Addysg Uwch neu brentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys Rheoli Busnes, y Gyfraith a Chyfrifeg.

Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyfleoedd gyrfa mewn meysydd arbenigol ym myd busnes, fel Cyllid, Adnoddau Dynol, Marchnata, yn ogystal â gyrfaoedd eraill sy’n gysylltiedig â busnes, fel rheoli Gwerthiannau a Rheoli Manwerthu, Rheoli Digwyddiadau, Cyfryngau Cymdeithasol, Rheoli Chwaraeon, dechrau eich busnes eich hun, y Gyfraith, Cyfrifeg, Rheolaeth Ariannol a chymaint o gyfleoedd gyrfa eraill.

Bydd hefyd yn bosibl i ddysgwyr symud ymlaen yn y gwaith ac astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol fel y rhai a gynigir gan sefydliadau siartredig marchnata, cyfrifwyr rheoli a datblygu personél.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?