Diploma lefel 1 mewn Cerbydau Modur

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00254
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen, Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn i’r rheiny sy'n dymuno dechrau yn y Diwydiant Gwasanaethu a Thrwsio Cerbydau Modur. Byddwch yn dysgu am Wasanaethu a Thrwsio sylfaenol. Bydd hyn yn cynnwys egwyddorion Iechyd a Diogelwch; Peiriannau a Thanwydd Systemau Peiriannau, Tanio, Oeri, Gwacáu ac Allyriadau; Systemau Trawsyrru a Brecio; Llywio, Hongiad, a Chynnal a Chadw Olwynion a Theiars.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio fel cyflwyniad i'r hai sy'n ystyried gyrfa yn y Diwydiant Cerbydau Modur.

Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Bydd Anogwr Cynnydd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a all godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i'w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau cymhwyster Lefel Mynediad perthnasol yn llwyddiannus

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Defnyddir aseiniadau ysgrifenedig byr ac arholiadau cwestiynau ac atebion aml-ddewis i brofi gwybodaeth.

Cynhelir asesiadau ymarferol yn ystod gweithgareddau gweithdy a byddant yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig.
• Prentisiaeth Cerbydau Modur rhan amser rhyddhau am ddiwrnod ar Lefel 2
• Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn (cwrs amser llawn)
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?