Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00491
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser 1 flwyddyn i ddechrau, gydag estyniad ail flwyddyn ar gyfer Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffynnol mewn lifrai.

Mae'r sector gwasanaethau amddiffynnol mewn lifrai yn amrywiol ac yn cynnwys gwasanaethau fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y Gwasanaethau Arfog a'r Gwasanaeth Carchardai, ac ati. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu trefnu a'u hariannu gan y llywodraeth er budd cymdeithas.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch chi’n ymgymryd â nifer o unedau academaidd fel:
Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau mewn Lifrai
Dinasyddiaeth,
Arwain, Gwaith Tîm a Chyfathrebu
Iechyd a Ffitrwydd yn y Gwasanaethau mewn Lifrai.
Gweithgareddau Anturus Awyr Agored

Byddwch chi hefyd yn cymryd rhan mewn Ffitrwydd ar gyfer y Lluoedd (FFF). Mae hon yn sesiwn ffitrwydd neu chwaraeon wythnosol i wella lefelau ffitrwydd personol i fodloni'r gofynion mynediad ar gyfer eich gwasanaethau cyhoeddus penodol.
Bydd angen i chi feddu ar 5 TGAU gradd C/4 neu uwch o leiaf, gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Byddwn yn defnyddio dulliau asesu amrywiol, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau PowerPoint, arholiadau ffurfiol, chwarae rôl ac asesiadau ymarferol.
Bwriad y Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 Pearson yn y Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai yw eich cynorthwyo i symud ymlaen i astudio ymhellach.

Ei brif ddiben yw cynorthwyo dysgwyr ôl-16 sydd am barhau â’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol, ac sy’n anelu at symud ymlaen i addysg uwch a chwrs gradd cysylltiedig, ac yna yn y pen draw, symud ymlaen i weithio yn y gwasanaethau amddiffynnol mewn lifrai.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?