Cwrs Lefel 3 mewn Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01384
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd o hyd.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn lleoliadau neu wasanaethau Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’n ymdrin ag ystod oedran o enedigaeth i 19 oed.

Byddwch yn astudio ystod o bynciau gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion ym maes gofal plant, iechyd, llesiant, dysgu a datblygu, arferion proffesiynol, diogelwch, hyrwyddo chwarae, ymddygiadau ac anghenion ychwanegol.

Mae elfen lleoliad gwaith sylweddol yn gysylltiedig â’r cwrs, a bydd gofyn I chi gwblhau 700 awr o waith o leiaf mewn lleoliad perthnasol dros y ddwy flynedd.

Mae hwn yn gwrs cyfwerth â 3 lefel A.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth os yn bosib, NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Bydd gofyn i ddysgwyr nad ydynt wedi cwblhau Lefel 2 eto
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Bydd dysgwyr craidd hefyd yn cwblhau’r cymhwyster hwn ochr yn ochr â’u lefel 3 i roi’r drwydded ymarfer iddyn nhw er mwyn gweithio gyda phlant.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol a dewisol. Bydd yr unedau’n gymysgedd o wybodaeth a dealltwriaeth a chymhwysedd a sgiliau.

Mae asesiadau felly ar ffurf portffolio o dystiolaeth, asesiadau, arsylwadau a thrafodaethau gan aseswr mewn lleoliad.

Hefyd, bydd angen I chi sefyll:
• Arholiad allanol
• Archwiliad estynedig wedi’I osod a’I farcio’n allanol.

Yn ogystal, byddwch chi’n cwblhau portffolio o dystiolaeth ochr yn ochr â’ch cymhwyster i ddangos pa mor gymwys ydych chi wrth gynllunio gweithgareddau gyda phlant.
Mae cyflogaeth ar gael mewn Ysgolion Awdurdod Lleol, Meithrinfeydd Dydd, y Gwasanaeth Iechyd, lleoliadau Gwaith Chwarae a Gofal, Unedau Anghenion Arbennig, y diwydiant teithio a gyda theuluoedd preifat sydd angen nani. Hefyd bydd cyfleoedd i deithio tramor.

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gofal plant neu leoliadau iechyd.

Gallai cwblhau’r Diploma yn llwyddiannus, arwain at Addysg Uwch fel Gradd Sylfaen mewn Blynyddoedd Cynnar, Addysgu neu Radd Anrhydedd Blynyddoedd Cynnar.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?