Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP51278 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae bosib ymadael ar ôl blwyddyn 1 lle bydd dysgwyr yn cyflawni’r Diploma Sylfaen. Os bydd dysgwyr am gwblhau’r Diploma Estynedig yna bydd y cwrs yn cael ei gyflawni o fewn dwy flynedd. Bydd y Diploma cyfwerth â 3 Safon Uwch. |
Adran | Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs yn eich paratoi chi ar gyfer gwaith yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n gyfwerth â 3 gymhwyster Safon Uwch.
Er mwyn cyflawni 3 cymhwyster Safon Uwch yn ystod y 2 flynedd i gefnogi eich ceisiadau prifysgol, byddwch yn cael cynnig i gwblhau unedau estynedig a fydd yn cynnwys elfennau gwyddoniaeth. Rydym yn cynnig i chi ail-sefyll eich cymhwyster TGAU mewn Bioleg yn rhan amser sy’n cael ei gyflwyno yn ystod y nos, ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
Byddwch yn astudio ystod o bynciau I ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys y materion cyfredol ynghylch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, egwyddorion gofal ac arferion diogel, ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolyn a’r effaith ar anghenion gofal a chymorth, hyrwyddo hawliau, cefnogi unigolion sy’n agored I niwed a gweithio yn y sector gofal iechyd. Bydd dysgwyr newydd yn cyflawni cymhwyster Craidd HSC hefyd, ynghyd â’u rhaglen lefel 3 I helpu eu paratoi nhw ar gyfer gwaith yn y sector.
Mae elfen lleoliad gwaith sylweddol yn gysylltiedig â’r cwrs, a bydd gofyn i chi gwblhau o
leiaf 150 awr o waith mewn lleoliad perthnasol, yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna parhau
â'ch lleoliad yn ystod eich ail flwyddyn.

5 TGAU gradd C/4 gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth, NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus
Bydd dysgwyr sydd heb gwblhau’r Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd eto
hefyd yn cwblhau’r cymhwyster hwn ynghyd â’u lefel 3.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Asesir y cwrs drwy asesiad mewnol ac asesiad allanol sy’n cynnwys aseiniadau ac arholiadau.
Gall dysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth mewn ystod o swyddi, gan gynnwys Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gweithiwr Prosiect, Technegydd Ambiwlans.
Mae’r cymhwyster yn darparu sylfaen addas i astudio iechyd a gofal cymdeithasol trwy ystod o gyrsiau addysg uwch fel Gwaith Cymdeithasol, Addysgu, Hyrwyddo Iechyd, Seicoleg, Ffisiotherapi, Therapydd Galwedigaethol, Bydwreigiaeth, Nyrsio a Radiograffeg.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025