L1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01246
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs llawn amser 1 flwyddyn.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs yw ysgogi diddordeb ac annog dealltwriaeth dysgwyr o'r sgiliau, y rhinweddau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio ar draws y sector Busnes, Teithio neu Gynllunio Digwyddiadau ar draws y sector Twristiaeth. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sydd eisiau datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y sector hwn, gan ddatblygu ac ymarfer y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Wrth gwblhau'r cwrs bydd dysgwyr yn astudio pynciau fel gwasanaeth i gwsmeriaid, menter a'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu busnes, sut i gynllunio digwyddiadau (corfforaethol, priodasau, partïon) yn effeithiol, ffactorau sy'n effeithio ar y sector, pwysigrwydd rheoli cyllidebau a marchnata effeithiol. Yn ogystal, byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich llythrennedd a rhifedd.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch a rhaid i un ohonynt fod mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Ar gyfer pob dysgwr sy’n edrych i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae’n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg a chyrraedd pob un o’r targedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn ennill y cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a asesir yn fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel siartiau gwybodaeth, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
Cymhorthydd Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cymhorthydd Twristiaeth a Hamdden, Cymhorthydd Trefnu Teithiau, Prentis mewn Cynllunio Digwyddiadau, Cynrychiolydd Gwyliau
Dilyniant i gwrs Lefel 2
Prentisiaeth

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf neu i gael gwaith mewn swyddi gweinyddol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?