Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01501
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos).
Adran
Celf a Dylunio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i Gelf yn cynnig rhaglen wedi'i chefnogi'n llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y sector hwn.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau sydd ganddynt i ddysgu, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial a symud ymlaen yn llwyddiannus i'w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn awyrgylch croesawgar.

Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ac unwaith y byddant yn barod, bydd dysgwyr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allent godi yn cael eu hymgorffori yn rhaglen y dysgwr i’w helpu i lwyddo. Mae’r cwrs Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu

Cyflwynir Mynediad i Gelf dros dri diwrnod.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i ennill cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr Efydd Dug Caeredin i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad i’r cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau oll fydd eich graddau, po fwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gallai dilyniant fod i un o’r canlynol:

Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
Twyf Swyddi Cymru+
Cyflogaeth
Rhaglen yn y gymuned
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Useful downloads
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Marchnadoedd Nadolig Ffordd y Bers Coleg Cambria
11/12/2024
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?