Lefel 1 mewn Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Trosolwg o’r Cwrs

Dyluniwyd y Diploma Lefel 1 mewn Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu i ddarparu’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n angenrheidiol i chi gael mynediad i a symud ymlaen i astudiaethau a hyfforddiant pellach mewn amrediad o ddisgyblaethau cerddoriaeth, perfformio a chynyrchiadau.

Dyluniwyd y cymhwyster i’ch cyflwyno i’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn cyfoethogi hunan hyder ac yn datgelu’r galwadau a chyfleoedd gyrfa potensial yn y diwydiannau creadigol.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai â diddordeb mewn cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu i ymchwilio rhai o’r deunyddiau, dulliau a phrosesau sy’n cefnogi llawer o weithgareddau cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, a dechrau datblygu sgiliau cysylltiedig. Bydd y cwrs hwn yn caniatáu i chi ddatblygu eich creadigrwydd wrth ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflwyniad llwyddiannus i holl feysydd y Diwydiannau Creadigol, ac yn eich paratoi i symud ymlaen i Lefel 2.

Mae’r rhaglen astudio yn cynnwys amrywiaeth o unedau a byddwch yn datblygu sgiliau trwy amrediad o weithgareddau. Byddwch yn cael cyflwyniad i amrediad o weithgareddau sy’n hanfodol i ddatblygu a darparu perfformiad megis actio, sgiliau lleisiol a symud yn ogystal â chael profiad o weithredoedd technegol gefn llwyfan. Bydd cyfleoedd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes a byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol a gefnogir gan ymweliadau addysgol.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn bwyslais craidd i’r holl ddysgwyr sy’n dilyn y rhaglen hon, gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i ymgeisio am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allent godi yn cael eu hymgorffori yn rhaglen y dysgwr i’w helpu i lwyddo. Mae’r cwrs Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Diploma Level 1 mewn Cerddoriaeth; Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu.
Mae’n rhaid i chi lwyddo ym mhob un o’r chwe uned er mwyn cyflawni’r cymhwyster. Mae’r uned derfynol, prosiect cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, yn caniatáu i chi arddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoir gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac mae’n penderfynu gradd y cymhwyster yn gyffredinol.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf) a Mathemateg

Rhaid i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithdy mynediad hefyd, ac mae’n rhaid bod yn bresennol a’i gwblhau’r llwyddiannus.

Ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich CDU.

Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.
Os ydych chi’n dymuno parhau a gwneud cynnydd gyda’ch astudiaethau, cewch astudio cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc tebyg megis Celfyddydau Perfformio neu Gerddoriaeth, a fydd hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?