Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00084
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen, Chwaraeon a Ffitrwydd, Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi’i lunio fel cyflwyniad i'r sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol yn yr unedau gorfodol, a fydd yn eu helpu o ddydd i ddydd. Mewn unedau sy’n benodol i feysydd, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon egnïol, rolau hyfforddi a ffitrwydd ymarferol gan gynnwys gweithgareddau awyr agored.

Bydd arbenigwyr diwydiant yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad o weithio yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ail-sefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dridiau a bydd yn gymysgedd o sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a darpariaeth ymarferol tu mewn a thu allan.
Asesiadau ysgrifenedig.
Cyflwyniadau.
Cynllunio a Threfnu.
Arsylwadau.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg/Cymraeg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i gwrs Lefel 2 perthnasol yn yr un maes, Twf Swyddi Cymru+, prentisiaeth neu gyflogaeth
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?