Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00131
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
3/4 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9 am tan 4.45 pm
Bydd angen i ddysgwyr fynd i rai sesiynau min nos
Bydd amserlenni yn cael eu rhannu yn ystod y cyfnod ymsefydlu
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt ar gyfer dysgwyr sy'n ceisio gyrfa fel Steilydd.

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Trin Gwallt (NOS), ac mae’n cael ei gydnabod gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt Prydain (The Hairdressing Council) yn gymhwyster addas y diben o baratoi dysgwyr at yrfa fel uwch driniwr gwallt / uwch steilydd.

Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o theori a sgiliau ymarferol uwch. Bydd yn meithrin ystod o sgiliau technegol, gan ganolbwyntio ar liwio, torri a thechnegau steilio yn ychwanegu at greadigrwydd a phroffesiynoldeb y myfyrwyr. Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio o’u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r dystiolaeth asesu. Mae’r rhaglen yn darparu’r sgiliau a’r rhinweddau personol sydd eu heisiau gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt yn cynnwys yr unedau canlynol;
● Torri’r gwallt gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
● Lliwio’r gwallt yn greadigol a’I oleuo
● Gwasanaethau ymgynghori trin gwallt
● Gosod a thrin gwallt yn greadigol
● Gwasanaethau cywiro lliw gwallt

Mae yna unedau dewisol ychwanegol a fydd yn cael eu dewis ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn y salon fasnachol yn Iâl, Salon Iâl wrth astudio eu cymwysterau. Mae datblygu sgiliau cyflogadwyedd yn agwedd sylfaenol ar y cwrs hwn

Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 mewn trin gwallt, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
● Mae’n rhaid i bob myfyriwr gwblhau cyfnod mewn lleoliad gwaith

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhannu’r dyddiadau gyda chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Cwblhau cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 yn llwyddiannus.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus a gall dysgwyr ennill lefelau cyrhaeddiad Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio yn y sector Trin Gwallt. Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.

Y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yw gweithio mewn salon fel steilydd, goruchwyliwr neu arbenigwr lliwio.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?