Mynediad i Sgiliau Galwedigaethol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01623
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser, 3 diwrnod yr wythnos
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Astudiaethau Galwedigaethol yn gwrs lefel mynediad wedi'i anelu at ymadawyr ysgol sy'n ansicr am ba lwybr i’w ddilyn neu ba bwnc i’w astudio.

Byddwch yn astudio unedau craidd mewn Technoleg Gwybodaeth, Mentergarwch a Dinasyddiaeth, ynghyd ag ystod o unedau i ddewis ohonynt sy'n cynnig profiad mewn gwahanol feysydd galwedigaethol. Gallai'r unedau hyn gynnwys cyfryngau creadigol, e-chwaraeon, gofal, crefftau adeiladu, peirianneg, gwallt a harddwch, neu chwaraeon.

Mae Astudiaethau Galwedigaethol wedi'i strwythuro i'ch paratoi ar gyfer dilyniant personol, a bywyd gwaith wrth ganolbwyntio ar eich nodau a chynyddu eich hyder.

Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pan fyddant yn barod, byddant yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

Asesu trwy dasgau a gwblhawyd trwy gydol y flwyddyn – Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Dyma gwrs pontio sy’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar lwybr gyrfa rydych chi eisiau ei ddilyn nesaf. Yn ystod y tymor olaf, byddwch chi’n rhoi cynnig ar sesiynau blasu mewn meysydd galwedigaethol gwahanol er mwyn i chi benderfynu ar eich camau nesaf.

Bydd dilyniant yn cynnwys naill ai cwrs galwedigaethol lefel uwch, rhaglen Twf Swyddi Cymru+ neu gyflogaeth.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?