Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Uwch

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion Peirianneg, gweithio’n effeithiol a diogel mewn amgylcheddau peirianneg, egwyddorion cynnal a chadw a gosod, a chomisiynu. Mae nifer o unedau arbenigol, fel unedau mecanyddol, hydrolig a thrydanol, yn ategu’r rhaglen hon.

Mae hon yn rhaglen beirianneg amlddisgyblaeth sy’n cynnwys y sgiliau a gwybodaeth beirianyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i weithio ym maes peirianneg. Mae’n rhoi cymorth i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau prentisiaeth yn y diwydiant cynnal a chadw a chomisiynu peirianneg. Bydd myfyrwyr yn dysgu technegau peirianneg ar gyfer cynnal a chadw llinell gynhyrchu, diffodd ac adfer systemau peiriannau i sicrhau cynhyrchiant effeithlon.
Cyfuniad o waith aseiniad, tasgau ymarferol ac arholiadau atebion byr, mewnol ac allanol.
Cwblhau rhaglen Beirianneg Ganolradd/Uwch/Lefel 2 llawn amser perthnasol yn llwyddiannus (er enghraifft cymhwyster City and Guilds ac EAL Trydanol a Mecanyddol, neu debyg) a Sgiliau Hanfodol cysylltiedig.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr gael o leiaf gradd C/4 TGAU mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau lefel 2 mewn Peirianneg ac sy’n gweithio tuag at wella eu TGAU yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglen hon. Fodd bynnag, mae’n ofyniad gorfodol y bydd pob dysgwr yn gweithio tuag at gwblhau TGAU gradd C/4 ac uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’n rhoi cyfle i’r rheiny sydd eisiau gweithio ym maes peirianneg, weithio mewn meysydd amlddisgyblaeth, fel mecanyddol, hydrolig, cynnal a chadw, trydanol, dylunio, gan gynnwys cynorthwyo gyda rhaglenni cynnal a chadw peirianneg y diwydiant cynhyrchu.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?