Lefel 2 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00336
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs wedi ei lunio i unigolion sydd yn, neu sy’n bwriadu, gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddwch yn cwblhau’r cymhwyster Craidd ochr yn ochr â’r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys 7 uned, ac mae’n rhoi cyflwyniad trylwyr i egwyddorion, gwerthoedd a gwybodaeth angenrheidiol i weithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion, plant a phobl ifanc.

Mae cynnwys y cymhwyster Craidd yn cynnwys y 7 uned ganlynol:
- Egwyddorion a Gwerthoedd Plant ac Oedolion (2 Uned)
- Iechyd a Llesiant Plant ac Oedolion (2 Uned)
- Arferion Proffesiynol (1 Uned)
- Diogelu (1 Uned)
- Iechyd a Diogelwch (1 Uned)
Mae’r cymhwyster Craidd yn cael ei asesu trwy un papur cwestiynau amlddewis sy’n cael ei farcio’n allanol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, rhaid i ymgeiswyr gael Lefel 1 mewn Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg neu berfformiad boddhaol.

Rhaid i chi allu dangos y potensial i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd angen i ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gyrsiau lefel 1 ddangos eu bod wedi cyflawni o leiaf Lefel 1 SHC mewn Saesneg a Mathemateg os nad ydynt wedi cael graddau D mewn TGAU. Bydd dysgwyr sy’n symud ymlaen yn gwneud cais ym mis Mawrth gyda’u hanogwr Cynnydd.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gallai’r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun eich arwain at:

● Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Egwyddorion a Chyd-destunau
● TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
● Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Arferion

Bydd y llwybr sydd fwyaf addas yn dibynnu ar y canlyniad rydych yn ei gyflawni o fewn y cymhwyster hwn a chymwysterau eraill rydych yn eu hastudio hefyd.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?