Diploma lefel 3 mewn E-Chwaraeon - Marchnata Digidol a Menter

Rhestr Fer

  • Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01423
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Caiff E-Chwaraeon ei ddiffinio fel chwarae gemau cystadleuol a drefnwyd, sef person yn erbyn person, yn unigol neu fel tîm. Mae’r diwydiant e-chwaraeon yn un byd eang sy’n tyfu’n gyflym. Ym mis Chwefror 2019, fe gyhoeddodd Newzoo ei Adroddiad Marchnad E-Chwaraeon Byd Eang 2019. Roedd yn nodi bod y farchnad e-chwaraeon fyd eang yn werth $655 miliwn yn y DU yn 2018. Cododd hyn i bron i $865 miliwn yn 2019 a rhagwelir y bydd yn cyrraedd $1.79 biliwn yn 2022.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu i fodloni’r galw sydd ar ddod am sgiliau mewn e-chwaraeon. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys llawer o sgiliau trosglwyddadwy sy’n galluogi dysgwyr i gael profiad o wahanol feysydd ym myd e-chwaraeon i’w helpu i symud ymlaen at gyflogaeth, naill ai’n uniongyrchol neu trwy astudiaeth ychwanegol.

Mae e-chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw i astudio sector sy’n croestorri sawl maes pwnc fel chwaraeon, busnes, dylunio gemau, hyfforddi a’r cyfryngau. Mae’n rhoi cyfle i gyd-dynnu sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddyliol ac ariannol i un cymhwyster i ddyfnhau ac ehangu dysgu. Mae’r sgiliau hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle hyblyg a newidiol. Mae’n rhaid i ddysgwyr gymhwyso strategaethau, sgiliau a gwaith tîm i fod yn llwyddiannus. Mae mwy i’r cymhwyster na dim ond gemau fideo, dim ond ychydig o chwarae gemau fideos fyddwch chi'n ei brofi ar gyfer asesiadau neu wrth gystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr Myfyrwyr Cymdeithas E-chwaraeon Prydain.

Bydd dysgwyr a fydd yn dilyn y cymhwyster hwn yn astudio 4 uned orfodol:
Uned 1: Cyflwyniad i E-Chwaraeon
Uned 2: Sgiliau, Strategaethau a Dadansoddiadau E-Chwaraeon
Uned 3: Menter ac Entrepreneuriaeth yn y diwydiant E-Chwaraeon
Uned 4: Iechyd, Llesiant a Ffitrwydd ar gyfer Chwaraewyr E-Chwaraeon
Uned 5: Digwyddiadau E-Chwaraeon

Yn ogystal â’r unedau gorfodol hyn, bydd deg uned ddewisol yn cael eu hastudio. Bwriad yr unedau dewisol ydy rhoi amrywiaeth o ddewis i ddysgwyr i gael dyfnder mewn ystod o unedau ar draws meysydd cyflogaeth e-chwaraeon, megis creu cynnwys, dylunio gemau, chwaraeon, y cyfryngau a busnes, yn ychwanegol at y rhai a ddysgwyd yn yr unedau gorfodol.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools