Diploma lefel 3 mewn Therapi Harddwch, Triniaethau ac Ewinedd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP81014
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch yn datblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ymhellach mewn ystod eang o driniaethau a gwasanaethau harddwch uwch.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau technegol gan gynnwys defnyddio a chymhwyso offer trydanol gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol dechnegau, gwasanaethau lliw haul a thechnoleg ewinedd.

Bydd sgiliau rhyngbersonol yn cael eu datblygu hefyd i alluogi dysgwyr i gyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid.

Drwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn adeiladu portffolio o'u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth asesu ac yn gweithio ar gleientiaid i reoli amser yn effeithiol wrth redeg colofn. Mae'r rhaglen yn darparu'r sgiliau a'r priodweddau personol sydd eu hangen ar gyflogwyr a Sefydliadau Addysg Uwch.

Yn ogystal â'r cymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3, byddwch hefyd yn cwblhau'r canlynol:

● Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg, drwy Gymraeg yn y gweithle
● Rhaid i bob dysgwr fynychu lleoliad gwaith.
Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Bydd y gwaith cwrs trwy asesiadau parhaus a bydd dysgwyr yn gallu cyflawni gradd Llwyddo.
Bydd llwybrau dilyniant i ddysgwyr yn cynnwys AU, cwrs Lefel 4 mewn Therapi Harddwch Uwch, neu gwrs ymarferol Lefel 4 mewn Triniaeth Nodwydd i’r Croen neu Bilion Cemegol neu weithio yn y sector Therapi Sba a Harddwch.

Bydd angen digon o bwyntiau UCAS ar ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen I AU ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. Mae cyfleoedd ar gael trwy gyflogaeth mewn Sbas, Clinigau, Llongau Mordeithio, Gwestai a Salonau.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?