Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87951
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i baratoi i ymuno â gwasanaeth cyhoeddus dewisol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu a rhyngbersonol sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaethau hynny.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phynciau gorfodol fel Iechyd a Diogelwch yn y Gwasanaethau mewn Lifrai, Iechyd a hylendid yn y Gwasanaethau mewn Lifrai, Archwilio cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer y Gwasanaethau mewn Lifrai, Dilyn Trefn y Gwasanaethau mewn Lifrai, Ymchwilio i gyflogaeth yn y Gwasanaethau mewn Lifrai, Ffitrwydd corfforol ar gyfer y Gwasanaethau mewn Lifrai, ac unedau dewisol fel Ymgymryd â gweithgareddau anturus ac Archwilio cyfleoedd gwirfoddoli.

Yn ogystal â'r brif raglen hon, bydd pob myfyriwr yn ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned, cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith preswyl gyda'r Fyddin Brydeinig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu ailsefyll TGAU mewn Iaith Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol os oes angen. I'r rhai sydd â TGAU Saesneg a Mathemateg, bydd gweithgareddau ymestyn i helpu i barhau i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys, teithiau maes, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol a phrofiad cysylltiedig arall yn y gwaith. Bydd yr asesiad ar y rhaglen hon yn barhaus a gall cyflawniad fod naill ai ar lefel Llwyddo, Teilyngdod neu Rhagoriaeth.

Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn elwa o alldeithiau awyr agored, ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus (yn amodol ar argaeledd) yn ogystal ag ymweliadau gan bersonél o amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus mewn lifrai. Efallai y bydd ymweliadau hefyd â chanolfannau gweithgareddau fel: Wythnos Glan Llyn neu Kingswood Colomendy, Parc Dŵr Alderford a Chill Factore.

Ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn am brynu* offer a gwisgoedd. *Efallai y bydd angen talu am rai teithiau hefyd sy’n angenrheidiol i fodloni meini prawf asesu.

*efallai y bydd cymorth ariannol ar gael

Bydd y cwrs yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen i brentisiaethau gyda’r Gwasanaethau Arfog neu Ddiploma Lefel 3 NCFE ar gyfer Mynediad i’r Gwasanaethau Amddiffyn Lifrai.

Mae hefyd o fudd arbennig i unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai, megis: y Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol neu’r Llu Awyr Brenhinol, neu’r Gwasanaethau Brys fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans neu yn olaf, y Gwasanaeth Carchardai neu’r Asiantaeth Ffiniau.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?