Lefel 2 UAL Diploma mewn Chynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87923
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Cwrs llawn amser 1 Flwyddyn.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma L2 mewn Sain a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn gyflwyniad i agweddau technegol a chreadigol y diwydiannau sain a chynhyrchu cerddoriaeth. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am feysydd fel Cynhyrchu Cerddoriaeth (gan gynnwys cymysgu, ailgymysgu a recordio mewn stiwdio), Cynhyrchu Sain Byw a chreu sain ar gyfer cynnyrch y cyfryngau, e.e. ffilm/teledu, podlediadau a gemau.

Mae’n gwrs galwedigaethol a byddwch yn cael eich cyflwyno i bynciau a sgiliau allweddol ac yn cael arweiniad i ddatblygu sgiliau ymarferol. Byddwch yn cael cyfle ymarferol i roi’r sgiliau hynny ar waith gyda phrosiect senario byd go iawn. Tuag at ddiwedd y flwyddyn byddwch yn dewis prosiect a fydd yn gweddu eich uchelgeisiau a bydd hyn yn ffurfio sail eich prif brosiect terfynol

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 2 Diploma mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth.
4 TGAU gradd D/ 3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau
fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eu hunain yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.

Mae pob uned astudiaeth meithrin sgiliau yn cael ei graddio ar sail pasio/methu. Ar ddiwedd pob blwyddyn byddwch yn astudio uned prif brosiect terfynol a fydd yn eich galluogi i arbenigo mewn maes ddiffiniedig o’ch dewis, a fydd yn ffurfio eich gradd gyffredinol derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar eich portffolio a’ch gwaith cwrs a thasgau ymarferol, hefyd wrth baratoi ar gyfer cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.
Peiriannydd Sain Byw, Peiriannydd Recordio, Cynhyrchydd Radio, Recordydd Sain Teledu neu Ffilm, Golygydd, Artist Foley, DJ, Cynhyrchydd Cerddoriaeth neu Reolwr Cerddoriaeth.

Sy’n addas ar gyfer symud ymlaen at astudio Lefel 3, neu baratoi ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau, neu leoliadau gwaith.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?