Lefel 3 UAL Diploma mewn Chynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP81016
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd lawn amser

Blwyddyn 1af – Diploma, paratoad addas ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau, neu Brifysgol (gyda chymwysterau lefel 3 eraill) yn symud ymlaen i 2il Flwyddyn – Diploma Estynedig, sy’n addas i symud ymlaen yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu gyflogaeth yn y diwydiant.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma UAL mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhoi cyfle i archwilio hanfodion gwaith awdio technegol a chynhyrchu cerddoriaeth mewn modd galwedigaethol ac yn seiliedig ar brosiectau. Mae'r cwrs yn meithrin y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi fel Peiriannydd Sain mewn meysydd fel Sain Byw, Cynhyrchu Cerddoriaeth Sain, Peirianneg Darlledu, Acwsteg, ac Awdio Ôl-gynhyrchu ar gyfer Ffilmiau, Teledu a Gemau Cyfrifiadurol, wrth roi'r wybodaeth dechnegol ac academaidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth arbenigol bellach yn y brifysgol.

Bydd Cynhyrchu Sain Byw yn meithrin sgiliau peirianneg blaen tŷ, monitro cymysgu a goleuadau llwyfan, wrth ehangu sgiliau wrth drefnu a rheoli digwyddiadau byw hefyd. Bydd gwaith Recordio mewn Stiwdio yn galluogi dysgwyr i gynllunio, gosod a rheoli sesiynau stiwdio safonol y diwydiant, wrth weithio'n uniongyrchol â cherddorion i gipio a chynhyrchu traciau o ansawdd uchel gan ddefnyddio offer recordio modern y diwydiant, mewn amgylchedd stiwdio pwrpasol. Bydd Cynhyrchu Cerddoriaeth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddefnyddio meddalwedd dilyniannu cerddoriaeth (DAW) i’w galluogi i gynhyrchu cymysgedd cerddoriaeth o safon broffesiynol, defnyddio MIDI a thechnegau golygu sain i gynhyrchu caneuon ailgymysgu a chaneuon gwreiddiol.

Yn ddiweddarach yn y cwrs, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd megis cynhyrchu sain ar gyfer ffilmiau a’r cyfryngau, creu recordiadau estynedig proffesiynol a datblygu sgiliau cymysgu a golygu ansawdd proffesiynol, sy'n cynnwys technegau dosbarthu a meistrolaeth o safon y diwydiant.

Mae cyfleoedd i gael profiad gwaith trwy gydol y cwrs, gyda chysylltiadau diwydiant cryf â lleoliadau cerdd a stiwdios recordio yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, lle mae llawer o'n myfyrwyr yn cymryd rhan ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae galw mawr am weithredwyr aml-fedrus ledled y diwydiannau creadigol ehangach. Rhagwelir y bydd twf o £100 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi'r DU, gan greu 900,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2030.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd ennill graddau da yn rhoi rhagor o ddewisiadau i chi a byddant yn gallu arwain at gael lle ar gwrs lefel uwch
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys hyd at 168 o bwyntiau UCAS ac mae’n addas ar gyfer ystod eang o gyrsiau gradd israddedig uchel eu parch yn genedlaethol, gyda hanes o fyfyrwyr yn llwyddo i fynd i’r brifysgol ac yn uniongyrchol i’r diwydiant. Trwy gydol y cwrs bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eu hunain yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.

Mae gradd llwyddo / methu i bob uned o astudiaeth meithrin sgiliau. Ar ddiwedd bob blwyddyn, byddwch yn astudio uned brosiect fawr olaf sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch dewis, a fydd yn ffurfio eich gradd gyfansawdd derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar bortffolio, gwaith cwrs a thasgau ymarferol, yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.
Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa fel Peiriannydd Sain Byw, Peiriannydd Recordio, Cynhyrchydd Radio, Recordydd Sain Teledu neu Ffilm, Golygydd, Artist Foley, DJ, Cynhyrchydd Cerddoriaeth neu Reolwr Cerddoriaeth.

Mae dewisiadau’r Brifysgol yn cynnwys cyrsiau gradd megis Technoleg Cerddoriaeth, Peirianneg Sain, Cynhyrchu Cerddoriaeth, Acwsteg, Peirianneg Darlledu, Cynhyrchu Digwyddiadau Byw a Busnes/Rheoli Cerddoriaeth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?