Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87952
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi wrth baratoi I ymuno â’r sefydliad gwasanaeth mewn lifrai o’ch dewis chi.

Mae'r sefydliadau hynny'n cynnwys sefydliadau fel Cyfiawnder Troseddol a Rheoli Troseddwyr fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai neu'r Asiantaeth Ffiniau. Y Gwasanaeth Tân ac Achub neu'r Lluoedd Arfog fel Byddin Prydain, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol; neu fel arall, astudiaeth bellach mewn maes cysylltiedig mewn prifysgol.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gorfodol damcaniaethol ac ymarferol fel:
● Paratoi ar gyfer gyrfa mewn Gwasanaeth mewn Lifrai o’ch dewis
● Datblygu agweddau o Ffitrwydd Corfforol
● Meithrin Sgiliau Arwain
● Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bydd unedau dewisol yn cynnwys:
● Hierarchaeth a threfn arferol gwasanaethau mewn lifrai
● Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur ar y Tir
● Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur yn y Dŵr
● Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur
● Gwirfoddoli yn y gwasanaethau mewn lifrai

Bydd pob myfyriwr yn astudio ar gyfer eu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel uwch a bydd disgwyl iddynt ymgymryd â Phrosiect Cymuned Fyd-eang a Phrosiect Cyrchfannau’r Dyfodol.
Yn ogystal, bydd disgwyl iddynt hefyd wirfoddoli ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal â gwneud gweithgareddau preswyl a phrofiad gwaith

Byddwch yn gweithio I wella eich llytrennedd a’ch rhifedd trwy gydol y cwrs hefyd.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy ystod o ddulliau gan gynnwys profiadau gwaith a gwirfoddol, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol ac ymarferion eraill i feithrin sgiliau. Bydd asesu ar y rhaglen hon yn digwydd yn barhaus, a gall cyflawniad fod naill ai ar lefel Llwyddiant, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cael budd o ymweliadau i sefydliadau amrywiol Gwasanaethau mewn Lifrai (yn amodol ar argaeledd), Parciau Cyfoeth Naturiol a chanolfannau alldeithiau antur ac awyr agored fel: wythnos yng Nglan Llyn neu Golomendy Kingswood, Parc Dwr Alderford a Chill Factore. Byddant hefyd yn cael ymweliadau gan asiantaethau a sefydliadau gwirfoddol sy’n berthnasol i’w gyrfa a’r rhaglen hon. Yn olaf, bydd ymweliadau hefyd gan bersonél o amrywiaeth eang o Wasanaethau Lifrai gan gynnwys yr Heddlu a’r Gwasanaethau Arfog.

Ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn am brynu* offer a gwisgoedd. *Efallai y bydd angen talu am rai teithiau hefyd sy’n angenrheidiol i fodloni meini prawf asesu.

*efallai y bydd cymorth ariannol ar gael

5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Ar gyfer dysgwyr dilyniant – cwblhau cwrs lefel 2 yn llwyddiannus, a gweithio ar lefel sy’n gyfwerth â TGAU gradd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd y cwrs yn sail ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen naill ai i brentisiaethau’r Heddlu, prentisiaethau’r Gwasanaeth Tân ac Achub, prentisiaethau’r Lluoedd Arfog, neu fel arall gallwch symud ymlaen i addysg uwch; mewn nifer o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys gradd Cyfiawnder Troseddol FdSc gyda Rheoli Troseddwyr.

Mae cyn fyfyrwyr wedi astudio pynciau amrywiol fel Cyfiawnder Troseddol, Astudiaethau Plismona, Chwaraeon, Seicoleg, Cymdeithaseg, Troseddeg, neu HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bydd hefyd o fudd penodol i unigolion sy’n dymuno dechrau a dilyn gyrfa yn y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol, y Gwasanaeth Carchardai neu’r Asiantaeth Ffiniau.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?