Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA18731 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 14 mis |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol wedi’i chynllunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i alluogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau cymorth digidol i ddarparu cymorth defnyddwyr digidol. Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i llunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ddiwallu anghenion cymorth ddigidol yn y gweithle.
Mae’r swyddi a gwmpesir gan y fframwaith hwn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio -
• Mewn sefydliadau ar draws pob sector diwydiant, gweithredu i gefnogi cymwysiadau a seilwaith digidol, dyfeisio datrysiadau a darparu cymorth a chefnogaeth i gydweithwyr
• Mewn desgiau cymorth cymwysiadau digidol gyda chyfrifoldeb penodol am gymorth cymwysiadau defnyddwyr
• Mewn busnesau llai heb swyddogaeth ddigidol ar y safle, cymryd cyfrifoldeb am gymorth cymhwysiadau i ddefnyddwyr a datrys problemau o ddydd i ddydd
• Sydd â chyfrifoldeb dros weithio gyda darparwyr cymwysiadau digidol a seilwaith trydydd parti

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Fodd bynnag, byddwn ni’n argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd G neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2. Byddwn ni hefyd yn argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3. Fodd bynnag, nid ydy’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond ni fydd hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant wedi’u seilio ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Asesiadau yn y gwaith
Mae’r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaethau Lefel 3 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol neu Seilwaith TG. Gallant barhau â’u haddysg trwy astudio diplomâu uwch, HNC mewn Cyfrifiadura, neu raglen technoleg ddigidol gysylltiedig. Gallant hefyd symud ymlaen yn eu swydd a’u dysgu trwy ymgymryd â chymwysterau proffesiynol technegol ychwanegol mewn seilwaith meddalwedd a chaledwedd. Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r rhaglen brentisiaeth Lefel 2 hon symud ymlaen yn eu gyrfa i gymryd cyfrifoldebau ychwanegol a swyddi cymorth uwch, gan wneud defnydd o’u harbenigedd technegol o fewn y sefydliad.
Mae Cyllid Prentisiaeth ar gael.
I gael gwybod cost y cwrs, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
I gael gwybod cost y cwrs, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025