Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Peirianneg Sifil

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd cyfnod ymsefydlu yn digwydd ym Mhrifysgol Wrecsam a fydd yn cynnwys cyflwyniad i’r cwrs, cyfleusterau, Undeb y Myfyrwyr ac ati.

● Cyflwyno rhaglen ar y cyd â Choleg Cambria (Blwyddyn 1 a 2) a Phrifysgol Wrecsam (Blwyddyn 3 a 4) (Dysgu yn y Gwaith Blwyddyn 1 a 2).
● Mae darlithoedd a labordai dysgu yn y dosbarth ar y campws yn bennaf yn un diwrnod yr wythnos neu’n ddarpariaeth bloc (Yn amodol ar alw gan gyflogwyr).
● Mae’r bartneriaeth academaidd rhwng Prifysgol Wrecsam a Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn darparu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol, y Sefydliad a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru.
● Arweiniad, cefnogaeth a mentora arbenigol gan ddarlithwyr Peirianneg Sifil Siartredig sydd â phrofiad diwydiannol hirsefydlog i gefnogi twf eich gyrfa gyda’ch cyflogwr.
● Dysgu gyda'ch cyd-brentisiaid gradd sy'n gweithio mewn gwahanol gwmnïau a diwydiannau yn yr amgylchedd adeiledig yn cefnogi dysgu cydweithredol symbiotig.
● Grwpiau tiwtorialau bach sy’n galluogi cymorth tiwtorialau agos, gan gynnwys sesiynau ychwanegol i helpu gyda mathemateg.
● Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i'w defnyddio ar y campws ac oddi arno.
● Mae amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu’n cael eu defnyddio i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael eu cymhwyso i senarios gwaith.
● Nod y cwricwlwm ydy addysgu arferion Amgylchedd Adeiledig heddiw ac yn y dyfodol, yn enwedig cefnogi prentisiaid i ddarparu datrysiadau cynaliadwy sy’n gyfrifol tuag at gymdeithas, er enghraifft ynni carbon niwtral ac adnewyddadwy er budd y gymdeithas gyfan.

Pam Dewis y Cwrs Hwn?

Mae Peirianneg Sifil yn sector arwyddocaol ac amrywiol yn Genedlaethol ac yn Rhyngwladol ac mae’n cynnwys agweddau megis dylunio, adeiladu a gweithredu pontydd, rheilffyrdd, meysydd awyr, ffyrdd, cronfeydd dŵr, twneli, amddiffynfeydd rhag llifogydd, tyrbinau gwynt, strydoedd diogel, teithio llesol, adeiladau gwyrdd, rheoli gwastraff a llawer mwy.

Mae’r Diwydiant Peirianneg Sifil ac Adeiladu yn un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gofyn am gyflenwad cyson o Ddylunwyr Peirianneg Sifil, Contractwyr, Goruchwylwyr, Arolygwyr, Technegwyr, Peirianwyr Corfforedig a Pheirianwyr Sifil Siartredig i reoli asedau presennol a chyflawni prosiectau peirianneg sifil o bob math.

Mae’r Brentisiaeth Gradd BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Sifil yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael eu herio ond eu cefnogi ac sy’n dymuno datblygu gwybodaeth a sgiliau i’w galluogi i ddatrys problemau, cyfathrebu a darparu datrysiadau peirianneg gwydn a chynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Nodweddion allweddol y cwrs

● Mae’r bartneriaeth academaidd rhwng Prifysgol Wrecsam a Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn darparu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol, y Sefydliad, Coleg Cambria a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru.
● Arweiniad, cefnogaeth a mentora arbenigol gan ddarlithwyr Peirianneg Sifil Siartredig sydd â phrofiad diwydiannol hirsefydlog.
● Mae grwpiau tiwtorial bach yn caniatáu cymorth tiwtorial agos, gan gynnwys sesiynau ychwanegol i helpu gyda mathemateg.
● Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i'w defnyddio ar y campws ac oddi arno.
● Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael ei gymhwyso i senarios gwaith.
● Mae maes pwnc yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o’r Gyfadran Celf, Cyfrifiadura a Pheirianneg, ac felly mae cynnwys yn elwa o gysylltiad â disgyblaethau pwnc y celfyddydau, cyfrifiadureg, peirianneg ac ynni adnewyddadwy.

Beth fyddwch chi’n ei astudio?

Mae blwyddyn gyntaf y Brentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Peirianneg Sifil yn cynnwys saith modiwl craidd ac un modiwl dewisol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon byddwch yn cael cyfleoedd i ddylunio strwythurau syml, gwerthfawrogi ymddygiad sylfaenol y pridd a datblygu technegau i ddadansoddi a datrys problemau.

Ym mhob rhan o'r modiwlau ar y rhaglen mae themâu Cyd-Fwrdd Cymedrolwyr megis dylunio, iechyd, diogelwch a risg a chynaliadwyedd, a fydd yn darparu llwybr at ystod o wybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau sylfaenol sy'n cyfrannu at gefnogi eich rôl waith.

Bydd Blynyddoedd 1 a 2 yn cael eu cyflwyno gan Goleg Cambria ar ei safle Ffordd y Bers.

Modiwlau Blwyddyn 1 (Lefel 4)

● Dyluniadau Peirianneg Sifil (Craidd)
● (Craidd)
● Mecaneg Strwythurol (Craidd)
● Technegau Peirianneg Dadansoddol (Craidd)
● Gwyddoniaeth a Deunyddiau (Craidd)
● Dysgu yn y Gwaith 1 (Craidd)

Un o’r canlynol:

● Technolegau Digidol mewn Lluniadu a Modelu (Dewisol)
● Mesur Meintiau (Dewisol)

Mae ail flwyddyn y rhaglen yn adeiladu ar y cyntaf ac mae’n rhoi cyfleoedd i ennill profiad ymarferol gan ddefnyddio cyfarpar a meddalwedd syrfeio o safon y diwydiant.

Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth am briodweddau hylif sylfaenol ac yn cynnal arbrofion labordy ymarferol i ychwanegu at eich dealltwriaeth o beirianneg hydrolig a rheoli adnoddau dŵr yn gynaliadwy.

Byddwch yn ystyried dulliau cynaliadwy o ddylunio seilwaith a rheoli asedau ac yn dangos eich gwybodaeth trwy senarios a datrysiadau sy’n seiliedig ar waith.

MODIWLAU

● Technolegau Digidol mewn Syrfeio (Craidd)
● Rheoli Adnoddau Dŵr (Craidd)
● Mathemateg Peirianneg Sifil (Craidd)
● Dysgu yn y Gwaith 2 (Craidd)

Un o’r canlynol:

● Isadeiledd a’r Amgylchedd (Dewisol)
● Peirianneg Hydro a Gwynt (Dewisol)

Bydd blynyddoedd 3 a 4 yn cael eu cyflwyno gan Brifysgol Wrecsam.

BLWYDDYN 3 (LEFELAU 5 a 6)

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch chi’n astudio pedwar modiwl. Mae'r modiwl Rheoli Prosiectau yn cynnig cyfleoedd i chi ddangos sgiliau technegol, ariannol, rheoli amser a phobl, sy'n ofynnol wrth gyflawni prosiectau nodweddiadol Peirianneg Sifil. Mae Rheoli Gwybodaeth Adeiladu yn y modiwl hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y dechnoleg arloesol hon a ddefnyddir i gydlynu'r cylch datblygu llawn, o'r cychwyn cyntaf, trwy'r prosesau dylunio ac adeiladu tuag at reoli'r prosiect gorffenedig, ei addasiadau posibl ac yn y pen draw ei ddadadeiladu. Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli personol trwy gyfathrebu ac ymgysylltu â gwaith grŵp ac ystyried Codau Ymddygiad Proffesiynol.

Mae’r modiwl Arferion Caffael a Chontractau yn mynd i’r afael â’r ffyrdd y caiff prosiectau peirianneg sifil/adeiladu eu comisiynu a’u gweithredu tuag at eu cwblhau, eu defnyddio a’u rheoli.

Bydd y Prosiect Ymchwil Unigol yn eich galluogi i ddangos sgiliau dysgu annibynnol, dadansoddi beirniadol a syntheseiddio, ac i ddangos eich dealltwriaeth o ymchwil, dadansoddi a'r adnoddau hanfodol sydd eu hangen i gynnig atebion cynaliadwy i broblemau peirianneg sifil. Bydd y modiwl hwn hefyd yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi fel y rhai sydd eu hangen i greu adroddiadau technegol a pharatoi a chyflwyno dogfennau adolygu i Gyrff Proffesiynol.

MODIWLAU
● Mecaneg, Strwythurau a FEA (Craidd)
● Arferion Caffael a Chontractau (Craidd)
● Rheoli Prosiectau (Craidd)
● Prosiect Ymchwil Unigol (Craidd)

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, mae Dylunio ar gyfer Gwydnwch yn yr Hinsawdd yn rhoi trosolwg i chi o agweddau ar yr Argyfwng Hinsawdd a'r effeithiau ar Isadeiledd, Cymdeithas a'r Amgylchedd. Mae'n ystyried sail newid hinsawdd ac yn nodi effaith amgylcheddol, asesiad, risg a rheolaeth. Mae'r modiwl yn archwilio technegau a dulliau y gellir eu cynnig fel datrysiadau i leihau effaith a gwella gwydnwch dylunio seilwaith.

Mae’r Prosiect Mawr (Dysgu yn y Gwaith) a’r holl fodiwlau Dysgu yn y Gwaith blaenorol yn elfen arwyddocaol o’r rhaglen Prentisiaeth Radd ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu a gweithredu gwybodaeth a phrofiad proffesiynol sy’n ymwneud nid yn unig yn uniongyrchol â’r gweithle ond sy’n darparu sgiliau trosglwyddadwy a nodweddion sydd eu hangen ar brentisiaid i ennill statws Peiriannydd Corfforedig.

Diben ychwanegol o’r modiwl hwn ydy galluogi myfyrwyr i adfyfyrio a datblygu eu heffeithiolrwydd eu hunain o ran eu harferion cyflogaeth presennol.

MODIWLAU

● Dylunio ar gyfer Gwydnwch yn yr Hinsawdd
● Prosiect Mawr (Dysgu yn y Gwaith)
● Deunyddiau Datblygedig
● Rheoli Risgiau Llifogydd

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu ddewisol. Mae modiwlau’n cael eu dynodi fel rhai craidd neu ddewisol yn unol â gofynion y corff proffesiynol ac adolygiad o'r fframwaith academaidd mewnol, felly gallen nhw newid.




Cyflwynir modiwlau gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp, gwaith labordy, arsylwi ar safle adeiladu a gwerthuso cymheiriaid. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo y gallwch gyfrannu at y drafodaeth am bynciau mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy’n rhan o’ch astudiaethau – yn y bôn mae addysgu a dysgu yn broses ddwy ffordd y mae eich barn yn hanfodol bwysig.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu o fewn y rhaglen i efelychu’r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan syrfewyr meintiau; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnydd ymarferol o offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, arholiadau, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar i gyd yn ffyrdd pwysig y gallwch ddangos eich dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesiad a ddewiswyd ar gyfer pob modiwl wedi’u dewis i gyd-fynd orau â natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc, a gyda’i gilydd yn darparu ystod o gyfleoedd i chi ddangos eich diddordeb, brwdfrydedd a dehongliad o gynnwys yn ystod eich astudiaethau.

O ran anghenion asesu penodol, gall y Brifysgol ac adran Gwasanaethau Cynhwysiant Coleg Cambria ddarparu arweiniad a chymorth priodol pe bai unrhyw brentisiaid angen addasiadau rhesymol i brosesau asesu oherwydd anabledd cyffredinol cydnabyddedig, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol.
I gofrestru ar gyfer y rhaglen BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Sifil, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyflawni o leiaf un o’r canlynol yn flaenorol:

● 48-72 pwynt tariff UCAS o gymhwyster lefel 3 priodol fel cymwysterau Safon Uwch, neu Dystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma BTEC mewn Peirianneg Sifil.
● 5 TGAU gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg

Bydd ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAS angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau nad ydynt yn cynnwys pwyntiau tariff UCAS, yn cael eu hystyried ar sail eu profiad proffesiynol yn y diwydiant maen nhw’n bwriadu astudio’r brentisiaeth ynddo. Bydd pob ymgeisydd nad yw’n bodloni’r gofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn cael cynnig, gan roi cyfle i’r rhai heb bwyntiau tariff UCAS ffurfiol ddangos sut mae eu sgiliau a’u profiadau o fewn y diwydiant yn eu gwneud yn ymgeisydd addas ar gyfer y rhaglen astudio hon.
Mae’r Brentisiaeth Gradd BEng (Anrh) mewn Peirianneg Sifil yn gymhwyster a gydnabyddir gan y Diwydiant a’r Cyrff Proffesiynol fel cymhwyster sy’n rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad i raddedigion ddarparu datrysiadau prosiect peirianneg mewn modd cynaliadwy, diogel a chost-effeithiol, ymarferol a thechnegol gymwys.

Mae Prentisiaethau Gradd mewn Peirianneg Sifil yn eich galluogi i ennill a dysgu o’r cychwyn, gan ddatblygu cymwyseddau technegol a sgiliau proffesiynol i wella’ch rôl yn y gweithle a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer dyheadau gyrfa yn y dyfodol.

Mae Peirianneg Sifil yn llwybr gyrfa bywiog, amrywiol, heriol a gwerth chweil. Mae’n darparu cyfleoedd i fod ar flaen y gad o ran datrysiadau dylunio sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, datblygu deunyddiau carbon isel a gweithredu arferion adeiladu cynaliadwy er lles cymdeithas rŵan ac yn y dyfodol.

Mae dewisiadau gyrfa posibl yn cynnwys:

● Dylunio Peirianneg Sifil
● Contractio Peirianneg Sifil
● Strwythurol
● Peirianneg Geodechnegol
● Peirianneg Priffyrdd
● Peirianneg Rheilffyrdd
● Peirianneg Arfordirol/Afonol
● Rheoli Prosiectau
● Cyflenwad ac Isadeiledd Dŵr
● Tirfesur Topograffaidd
● Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
● Rheoli Adeiladu
● Rheoli’r Amgylchedd
● Rheoli Risgiau
● Cynhyrchu Egni Amgen
Yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster Prentisiaeth Gradd yng nghyd-destun Cymru a gofynion mynediad Prifysgol Wrecsam, mae’r rhaglen Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Peirianneg Sifil yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn amodol ar argaeledd.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?