Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd cyfnod ymsefydlu yn digwydd ym Mhrifysgol Wrecsam a fydd yn cynnwys cyflwyniad i’r cwrs, cyfleusterau, Undeb y Myfyrwyr ac ati.

● Cyflwyno rhaglen ar y cyd â Choleg Cambria (Blwyddyn 1 a 2) a Phrifysgol Wrecsam (Blwyddyn 3 a 4) (Dysgu yn y Gwaith Blwyddyn 1 a 2).
● Mae darlithoedd a labordai dysgu yn y dosbarth ar y campws yn bennaf yn un diwrnod yr wythnos neu’n ddarpariaeth bloc (Yn amodol ar alw gan gyflogwyr).
● Pan fydd myfyrwyr Prentisiaeth Gradd yn cael eu cofrestru ar yr un pryd neu wedi hynny ar raglen datblygiad proffesiynol y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), bydd cwblhau’r Brentisiaeth Gradd a’r rhaglen datblygiad proffesiynol yn llwyddiannus yn caniatáu aelodaeth Siartredig o’r CIOB (MCIOB).
● Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i'w defnyddio ar y campws ac oddi arno.
● Dysgu gyda'ch cyd-brentisiaid gradd sy'n gweithio mewn gwahanol gwmnïau a diwydiannau yn yr amgylchedd adeiledig yn cefnogi dysgu cydweithredol symbiotig.
● Mae amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu’n cael eu defnyddio i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael eu cymhwyso i senarios arferol adeiladu, gan ddefnyddio astudiaethau achos y diwydiant a briffiau asesiadau.
● Hefyd, ein nod ydy datblygu a mentora eich sgiliau cyflogadwyedd ac ymddygiad proffesiynol i gefnogi twf eich gyrfa gyda'ch cyflogwr.
● Nod y cwricwlwm ydy addysgu arferion Amgylchedd Adeiledig heddiw ac yn y dyfodol, yn enwedig cefnogi prentisiaid i ddarparu datrysiadau cynaliadwy sy’n gyfrifol tuag at gymdeithas, er enghraifft ynni carbon niwtral ac adnewyddadwy er budd y gymdeithas gyfan.

Pam dewis y cwrs hwn?

Y Diwydiant Adeiladu ydy un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae angen cyflenwad cyson o reolwyr adeiladu i redeg prosiectau adeiladu a pheirianneg sifil o bob math; mawr, bach, syml a chymhleth. Mae’r Brentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant ac sy’n cael eu hysgogi gan weld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo a’u harbenigedd yn cael ei gydnabod o fewn sector adeiladu bywiog a heriol.

Mae gan bob un ohonom rywfaint o brofiad o’r sector adeiladu oherwydd ein rhyngweithio ag adeiladau, felly os ydych yn gyflogedig neu ar fin dod yn gyflogedig yn y sector adeiladu, bydd y rhaglen radd hon yn ehangu eich gwybodaeth ac yn atgyfnerthu eich dealltwriaeth o sut mae prosiectau’n cael eu creu, rheoli, adeiladu a gweithredu ar ôl gorffen.

Er bod llawer o reolwyr adeiladu wrthi'n gwneud prosiectau datblygu newydd, mae llawer o rai eraill yn gyfrifol am reoli prosiectau treftadaeth ac adnewyddu; yn aml yn sensitif ei natur oherwydd arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol, neu ansawdd traddodiadol y ffabrig presennol. Gall gyrfa mewn rheoli adeiladau felly fod mor amrywiol neu mor arbenigol ag y dymunwch fod wrth ddilyn eich nodau a'ch uchelgeisiau personol eich hun.

Nodweddion allweddol y cwrs

● Pan fydd myfyrwyr Prentisiaeth Gradd yn cael eu cofrestru ar yr un pryd neu wedi hynny ar raglen datblygiad proffesiynol y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), bydd cwblhau’r Prentis Gradd a’r rhaglen datblygiad proffesiynol yn llwyddiannus yn caniatáu aelodaeth Siartredig o’r CIOB (MCIOB).
● Rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu'n uniongyrchol â diwydiant trwy gynadleddau, darlithoedd gwadd ac ymweliadau â phrosiectau adeiladu byw i arsylwi gweithrediadau safle ar waith.
● Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i'w defnyddio ar y campws ac oddi arno.
● Cyflwynir darlithoedd mewn blociau olynol cyn belled ag y bo modd, er mwyn sicrhau amser astudio hyblyg oddi wrth y Brifysgol a Choleg Cambria.
● Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael ei gymhwyso i senarios arferol adeiladu.
● Mae maes pwnc yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o’r Gyfadran Celf, Cyfrifiadura a Pheirianneg, ac felly mae cynnwys yn elwa o gysylltiad â disgyblaethau pwnc y celfyddydau, cyfrifiadureg, peirianneg ac ynni adnewyddadwy.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae blwyddyn gyntaf y Brentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn cynnwys chwe modiwl craidd ac un modiwl dewisol sy’n cyfuno i ddarparu cyflwyniad gwybodus i’r ystod o ystyriaethau esthetig, gweithredol, cyfreithiol ac amgylcheddol sy’n cyfrannu at adeiladu adeiladau a seilwaith. Bydd Blynyddoedd 1 a 2 yn cael eu cyflwyno gan Goleg Cambria ar ei safle Ffordd y Bers.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae blwyddyn gyntaf y Brentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn cynnwys chwe modiwl craidd ac un modiwl dewisol sy’n cyfuno i ddarparu cyflwyniad gwybodus i’r ystod o ystyriaethau esthetig, gweithredol, cyfreithiol ac amgylcheddol sy’n cyfrannu at adeiladu adeiladau a seilwaith.

MODIWLAU

● Rheoli Adeiladu (Craidd)
● Technolegau Digidol Lluniadu a Modelu (Craidd)
● Egwyddorion Cyfreithiol, Cydymffurfiaeth a Chyfrifoldeb (Craidd)
● Gwyddoniaeth a Deunyddiau (Craidd)
● Technoleg Adeiladu (Craidd)
● Dysgu yn y Gwaith 1 (Craidd)

Un o’r canlynol:

● Technoleg Dylunio Pensaernïol (Dewisol)
● Syrfeio Adeiladau (Dewisol)
● Dyluniadau Peirianneg Sifil (Dewisol)
● Mesur Meintiau (Dewisol)

BLWYDDYN 2 (LEFELAU 4 a 5)

Mae ail flwyddyn y rhaglen yn adeiladu ar y cyntaf trwy fodiwlau sy'n archwilio ystyriaethau technegol a gweithdrefnol pwysig wrth reoli prosiectau adeiladu. Mae Dulliau Adeiladu Modern yn ystyried cyfleoedd ar gyfer gwaith parod a defnyddio systemau adeiladu modiwlaidd, ac mae Rheoli Masnachol yn mynd i'r afael ag ystyriaethau ariannol a chostau sy'n gysylltiedig â dylunio, caffael, adeiladu, cwblhau, cynnal a chadw a datgomisiynu adeiladau.

MODIWLAU

● Technolegau Digidol mewn Syrfeio (Craidd)
● Rheoli Adeiladu 2 (Craidd)
● Dulliau Modern o Adeiladu (Craidd)
● Rheoli Masnachol (Craidd)
● Dysgu yn y Gwaith 2 (Craidd)

BLWYDDYN 3 (LEFELAU 5 a 6)

Mae trydedd flwyddyn y rhaglen yn rhoi cyfleoedd i ddeall yn well oblygiadau newid yn yr hinsawdd a mesurau lliniaru yn erbyn effeithiau’r newid yn yr hinsawdd mewn Dylunio ar gyfer Gwydnwch yn yr Hinsawdd, ac mae Rheoli Prosiectau yn ystyried yr egwyddorion a'r arferion sy'n arwain at weithredu prosiectau adnewyddu a datblygu adeiladau newydd yn llwyddiannus. Bydd blynyddoedd 3 a 4 yn cael eu cyflwyno gan Brifysgol Wrecsam.

MODIWLAU

● Gwasanaethau Adeiladau (Craidd)
● Arferion Caffael a Chontractau (Craidd)
● Rheoli Prosiectau (Craidd)
● Dylunio ar gyfer Gwydnwch Hinsawdd (Craidd)

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae pedwaredd flwyddyn a blwyddyn olaf y rhaglen yn cwblhau’r Brentisiaeth Radd trwy ymgorffori elfennau dewisol lle mae prentisiaid yn gallu nodi a dilyn cynnig ymchwil priodol mewn Prosiect Ymchwil Unigol, a chwblhau Prosiect Mawr, y mae ei baramedrau a’i gyd-destun gwaith yn cael ei benderfynu rhwng y Prentis, ei gyflogwr a Thiwtor y Modiwl.

MODIWLAU

● Prosiect Ymchwil Unigol
● Arferion Proffesiynol
● Prosiect Mawr

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu ddewisol. Mae modiwlau’n cael eu dynodi fel rhai craidd neu ddewisol yn unol â gofynion y corff proffesiynol ac adolygiad o'r fframwaith academaidd mewnol, felly gallen nhw newid.





Cyflwynir modiwlau gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp, gwaith labordy, arsylwi ar safle adeiladu a gwerthuso cymheiriaid. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo y gallwch gyfrannu at y drafodaeth am bynciau mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy’n rhan o’ch astudiaethau – yn y bôn mae addysgu a dysgu yn broses ddwy ffordd y mae eich barn yn hanfodol bwysig.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu o fewn y rhaglen i efelychu’r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan reolwyr adeiladu; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnydd ymarferol o offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, arholiadau, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar i gyd yn ffyrdd pwysig y gall prentisiaid ddangos eich dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesiad a ddewiswyd ar gyfer pob modiwl wedi’u dewis i gyd-fynd orau â natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc, a gyda’i gilydd yn darparu ystod o gyfleoedd i chi ddangos eich diddordeb, brwdfrydedd a dehongliad o gynnwys yn ystod eich astudiaethau.
O ran anghenion asesu penodol, gall y Brifysgol ac adran Gwasanaethau Cynhwysiant Coleg Cambria ddarparu arweiniad a chymorth priodol pe bai unrhyw brentisiaid angen addasiadau rhesymol i brosesau asesu oherwydd anabledd cyffredinol cydnabyddedig, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol.
I gofrestru ar gyfer y rhaglen Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu, mae’n rhaid i ymgeiswyr:

● fod yn gweithio mewn swydd lawn amser sy’n briodol i reoli adeiladu,
● gweithio yng Nghymru o leiaf 51% o’r amser,
● gallu mynychu diwrnod yr wythnos ar gyfer astudiaethau,
● bodloni’r meini prawf isod, a
● heb astudio pwnc tebyg ar y lefel hon neu uwch o’r blaen.

Fel arfer bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni o leiaf un neu ragor o’r meini prawf academaidd a/neu broffesiynol canlynol:

● Cwblhau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus ar Lefel 3 mewn disgyblaeth y mae tîm y rhaglen yn ei hystyried yn briodol; neu
● 48-72 o bwyntiau tariff UCAS (120-180); neu
● Ddiploma neu Dystysgrif Genedlaethol BTEC; neu
● aelodaeth o gorff proffesiynol sy’n ymwneud ag adeiladu ar lefel y mae tîm y rhaglen yn ei hystyried yn briodol.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad safonol a nodir uchod a bydd disgwyl iddynt ddangos trwy gyfweliad bod ganddynt y potensial i lwyddo ar y rhaglen.

Mae croeso hefyd i ymgeiswyr a gyflogir yn y diwydiant adeiladu ac sydd â phrofiad priodol digonol, er y bydd asesiad diagnostig cyn derbyn yn cael ei ystyried er mwyn mesur gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

Mae croeso hefyd i ymgeiswyr rhyngwladol y mae eu cymwysterau presennol wedi’u hamlinellu gan y Ganolfan Genedlaethol Cydnabyddiaeth Academaidd a Gwybodaeth (NARIC) fel rhai sy’n cyfateb i’r cymhwyster mynediad perthnasol yn y Deyrnas Unedig. Bydd disgwyl i bob ymgeisydd nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ddangos hyfedredd yn y Saesneg; Mae ymgeiswyr Ewropeaidd yn gallu darparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (rhagor o fanylion), gan gynnwys IELTS; Mae ymgeiswyr rhyngwladol angen Prawf Iaith Saesneg Diogel (SELT) a Gymeradwywyd gan UKVI (rhagor o fanylion).
Mae’r Brentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn darparu cymhwyster sy’n cael ei gydnabod fel mesur cynhwysfawr, gwybodus a gwerthfawr o allu myfyriwr graddedig Prifysgol Wrecsam mewn rheoli adeiladu.

Mae cyfleoedd ar gyfer rheolwyr adeiladu yn bodoli yn y diwydiant adeiladu mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau diweddar i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob maint a math – gall datblygu gyrfa fel rheolwr adeiladu arwain at lawer o brofiadau gwerth chweil, nid lleiaf oherwydd y ffaith bod nid oes unrhyw ddau brosiect adeiladu yr un fath, a bod rheolwyr adeiladu yn debygol o dreulio cymaint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu y gall gyrfa mewn rheoli adeiladu fod yn heriol yn aml, yn arbennig o werth chweil, ond byth yn arferol.

Felly bydd y cymhwyster Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu gyrfa mewn agweddau proffesiynol a thechnegol rheoli prosiectau adeiladu mewn ystod o gyd-destunau. Gall graddedigion ddisgwyl sefydlu eu hunain fel rheolwyr adeiladu, archwilwyr adeiladau a thechnolegwyr adeiladu amrywiol eraill, yn bennaf oherwydd y profiad a’r ddealltwriaeth y gellir eu hennill drwy ddilyn y rhaglen Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Wrecsam a Choleg Cambria.

Yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster Prentisiaeth Gradd yng nghyd-destun Cymru a gofynion mynediad Prifysgol Wrecsam, mae’r rhaglen Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh.) mewn Rheoli Adeiladu yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn amodol ar argaeledd.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?